Her Nadolig y Big Give

Diolch yn fawr!
Diolch yn fawr i bawb wnaeth gyfrannu yn ystod Her Nadolig Big Give i'n helpu ni i gyrraedd ein nod! Rydyn ni mor ddiolchgar am eich cefnogaeth a'ch haelioni chi sy'n ein helpu ni i wneud y celfyddydau'n hygyrch i bawb.
Pam cyfrannu?
Eleni rydyn niโn codi arian ar gyfer ein gweithdai Fuse - sesiynau creadigol wythnosol i bobl ifanc 13 i 17+ oed sydd ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae sesiynau aml-gelfyddyd yn cynnig amgylchedd cefnogol lle gall y cyfranogwyr archwilio eu creadigrwydd, meithrin hyder, dysgu am greu theatr a gwneud ffrindiau newydd.
Rhaid gwneud unrhyw gyfraniad drwy wefan Big Give a bydd eich rhodd yn cael ei chyfateb ac wedyn ddwywaith yn fwy gwerthfawr wrth gefnogi ein grwpiau Fuse.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut gall eich rhodd gefnogi Theatr Clwyd cysylltwch รข Lily Peers-Dent, y Cynorthwy-Ydd Datblygu.