Fuse

Llun 23 Medi - Llun 30 Mehefin 25

Ar gyfer pobl ifanc 7 i 14 oed sy’n anabl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a’u ffrindiau.

Cyfle i archwilio eich creadigrwydd eich hun a dysgu am greu theatr gyda thîm o artistiaid dawnus ac arweinwyr gweithdai Theatr Clwyd. Bydd cyfle i roi cynnig ar lawer o brofiadau gwahanol – o actio a dawnsio, i gerddoriaeth a gwaith sgript, mynd tu ôl i’r llenni hyd yn oed efallai.

Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn rhannu straeon, yn chwerthin, yn datblygu hyder, ac yn gwneud ffrindiau newydd.


Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?

Mae'r grŵp hwn yn rhedeg ar y diwrnod a nodir isod.

Tymor yr Hydref: Dydd Llun 23 Medi – Sad 21 Rhagfyr 2024
Hanner Tymor: 28 Hydref – 2 Tachwedd (Dim sesiynau)

Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 8 Mawrth (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf: Dydd Mawrth 6 Mai – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025



Faint mae’n gostio?


Bwrsarïau
Mae'n hanfodol i ni fod unrhyw un yn gallu cael mynediad i'n grwpiau a bydd ein cynllun bwrsariaeth heb gwestiynau yn parhau yn ei le eleni. Mae’r cynllun hwn yn eich galluogi i dalu’r pris llawn o £220 y flwyddyn, gwneud cais am 25% i ffwrdd a thalu £165 y flwyddyn, gwneud cais am 50% i ffwrdd a thalu £110 y flwyddyn. Telir yn fisol trwy ddebyd uniongyrchol.

Mae gennym ddwy lefel o fwrsariaeth yn cynnig lefelau gwahanol o ostyngiad.



Cost Flynyddol

Debyd Uniongyrchol Misol

Cost Lawn pris safonol

£220.00

£20.00

Bwrsari o 25%

Lle gyda chefnogaeth

£165.00

£15.00

Bwrsari o 50%
Lle gyda chefnogaeth

£110.00

£10.00


Nid oes gennym broses ymgeisio fanwl am fwrsariaethau gan ein bod yn ymddiried ynoch i dalu’r hyn y gallwch ei fforddio. Diolch i'ch gonestrwydd gall y rhai sydd angen ychydig o help gael y gostyngiad sydd ei angen arnynt i gymryd rhan.

Os oes unrhyw beth arall yn eich atal rhag cymryd rhan megis mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost at box.office@theatclwyd.com ac fe wnawn ein gorau glas i helpu.


Archebu

I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.

E-bost: box.office@theatrclwyd.com

Ffôn: 01352 344101