The Music of Whitney - The Candlelight Concert

See dates and times  

Byddwch yn barod am noson fythgofiadwy wrth i Xperience Live gyflwyno The Music ofWhitney – The Candlelight Concert, dathliad disglair o gerddoriaeth oesol a llais rhyfeddol Whitney Houston. Mae'r deyrnged odidog yma’n cynnwys band byw o safon byd ac un o brif artistiaid teyrnged Whitney Houston yn y DU, gan gyflwyno ei chaneuon mwyaf poblogaidd gyda didwylledd, angerdd a phŵer syfrdanol.

Yng ngolau cynnes cannoedd o ganhwyllau, byddwch yn cael eich cludo i galon gwaddol cerddorol Whitney. Bydd cyfle i ail-fyw hud clasuron eiconig fel “I Wanna Dance with Somebody,” “One Moment in Time,” “I’m Every Woman,” ac “I Will Always Love You,”, pob un yn cael eu perfformio gydag egni deinamig band byw llawn. O faledi emosiynol dyrchafol i anthemau dawns cynhyrfus, mae pob cân wedi'i saernïo fel eich bod chi’n cael cyfle i ymgolli yng ngwychder ac ysbryd ei gyrfa unigryw.

Gan ychwanegu at yr hud, mae'r lleoliad arbennig yma yng ngolau cannwyll yn creu awyrgylch agos atoch chi lle mae pob nodyn yn teimlo'n bersonol a phob ennyd yn atseinio. Mae'r cyfuniad o leisiau byw syfrdanol, offeryniaeth gyfoethog, ac amgylchedd gweledol cyfareddol yn addo siwrnai wirioneddol gyfranogol ac emosiynol drwy gerddoriaeth Whitney. Os ydych chi'n gefnogwr oes neu'n darganfod ei gwaddol am y tro cyntaf, mae'r cyngerdd yma’n cynnig profiad hiraethus, llawn calon, a fydd yn aros gyda chi ymhell ar ôl y gân olaf.

Yn fwy na dim ond cyngerdd, mae hwn yn brofiad synhwyraidd syfrdanol sy'n anrhydeddu calon, enaid a chelfyddyd Whitney Houston.

Ymwadiad: Cyngerdd teyrnged ydi hwn. Nid yw'n gysylltiedig â stad neu gynrychiolwyr Whitney Houston nac wedi'i gymeradwyo a'i noddi ganddynt.



Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!