Sandro Ford: Larger Than Life

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Mae'r comedïwr stand-yp Sandro Ford ar fin cychwyn ar ei daith gyntaf erioed yn y DU ac Iwerddon, ac mae'n un fawr.

Gyda’r teitl Lager Than Life, mae'r daith gyntaf yma’n cyflwyno llais unigryw Sandro, ei sylwadau craff, a'i straeon sy'n adlewyrchu diwylliant y dafarn i lwyfannau ledled y wlad.

Fel cydgyflwynydd y podlediad hynod boblogaidd Problematic Pub ac ar ôl ymddangos ar Have A Word, Dead Men Talking a Hot Water Green Room, mae Sandro wedi ennill enw da iddo’i hun yn gyflym fel comedïwr sy'n dweud pethau fel maen nhw.

Mae ei gomedi wedi'i gwreiddio mewn bywyd go iawn — tyfu i fyny, mynd yn hŷn, penderfyniadau gwael, hangofyrs gwaeth, a'r math o gymeriadau welwch chi mohonyn nhw yn unman ond mewn tafarn. Yn onest, yn hunanymwybodol ac yn ddoniol dros ben heb unrhyw ymddiheuriad, mae ei ddeunydd yn teimlo'n gyfarwydd ac mae’n hawdd uniaethu ag o ar unwaith.

Mae Lager Than Life yn ddathliad o nosweithiau sy'n mynd allan o reolaeth, ffrindiau sydd byth yn newid, a'r anhrefn tawel sy'n rhan o fywyd bob dydd ym Mhrydain. Mae arddull hamddenol Sandro a'i gysylltiad naturiol â'r gynulleidfa yn sicrhau bod ei jôcs yn taro'n berffaith, gan droi sefyllfaoedd cyfarwydd yn eiliadau o gomedi pur. Un funud mae'n dadansoddi gwrywdod modern, a'r funud nesaf mae'n ymgolli mewn stori na ddylai fod wedi cael ei rhannu'n gyhoeddus — ond rydych chi'n falch ei fod o wedi gwneud hynny.

Mae'r daith yma’n gam nesaf i gomedïwr sy'n mynd o nerth i nerth, gan gyflwyno ei ddeunydd mwyaf personol a phwerus hyd yma i gynulleidfaoedd byw. Os ydych chi wedi dilyn ei ymddangosiadau ar bodlediadau neu'n ei ddarganfod am y tro cyntaf, byddwch yn barod am lond bol o chwerthin, gonestrwydd di-flewyn-ar-dafod, a straeon sy'n taro adref.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!