Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd
Ers 2005, mae David Eagle wedi bod yn aelod o'r band The Young'uns sydd wedi ennill Gwobr Werin BBC Radio 2 dair gwaith ac sy'n adnabyddus am eu comedi.
Mae David yn ddall, ac mae ei hiwmor yn aml yn archwilio sut mae ei anabledd yn troi digwyddiadau cwbl gyffredin yn ddramâu swreal a chymhleth.
Yn aml, mae ganddo ei acordion (fel ymateb pigog i bobl sy'n gweiddi sylwadau o'r gynulleidfa fel arfer) ac mae’n perfformio caneuon comedi gydag arddull werin, fel ei barodi o George Formby, a ddisgrifiwyd gan y Guardian fel "a comic tour de force."
Bydd y sioe un dyn newydd sbon yma’n cynnwys comedi stand-yp, adrodd straeon hynod ddoniol, a mwy o ganeuon gwerin a chomedi nag erioed o'r blaen!

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



