Peppa Pig Festive Fun Gradd U.

See dates and times   –

Ymunwch â Peppa Pig a’i theulu yn y sinema ar gyfer profiad Nadoligaidd ar y sgrin fawr wrth iddyn nhw ddathlu Nadolig cyntaf Evie!

Rhannwch gyffro Dydd Nadolig wrth i’r teulu o bump adlewyrchu ar atgofion gwerthfawr o’r tymor. O anturiaethau yn yr eira a dramâu Nadoligaidd i addurno’r goeden, mae’r profiad sinema awr o hyd yma’n dod â 7 pennod glasurol o Peppa Pig ar thema’r Nadolig, a 4 cân newydd sbon y gall y rhai bach ddawnsio a chydganu iddyn nhw, at ei gilydd,

Yn llawn chwerthin, cerddoriaeth ac eiliadau hyfryd, mae’r profiad sinema arbennig yma’n ddiwrnod perffaith i’r teulu yn ystod cyfnod yr ŵyl. Felly, bachwch eich hetiau, eich sgarffiau a’ch menig a mwynhau hud y tymor gyda’ch hoff foch bach yn y Profiad Sinema sy’n cynnig Hwyl Nadoligaidd hefo Peppa!