Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd
The most visceral adrenaline-fueled piece of theatre this yearLTR
A live experience you won't soon forget. Hauntingly Good.WhatsOnStage
Y FFENOMEN RYNGWLADOL A WERTHODD BOB TOCYN YN Y WEST END, YN SYTH O LUNDAIN GYDAG EFFEITHIAU ARBENNIG NEWYDD SBON.
Mae James a Lou yn symud o Chicago i Lundain i geisio dianc rhag eu gorffennol, ond maen nhw’n darganfod yn fuan iawn nad llefydd sy’n arswydus, ond pobl...
Wedi’i hysbrydoli gan y gyfres ffilmiau eiconig a brawychus, mae Paranormal Activity yn stori newydd sy’n cael ei pherfformio’n fyw ar y llwyfan.
Yn serennu yn y cynhyrchiad iasol yma mae James Bye (2:22: A Ghost Story, EastEnders) fel James, Hannah Sinclair Robinson (The Play That Goes Wrong, The Curious Incident of the Dog in the Night-Time) fel Lou, Jo Castleton (War Horse) fel Etheline Cotgrave a Caroline Faber (Network, The Heiress) fel Carolanne.
Yn cychwyn ar ei daith gyntaf erioed ledled y DU ac Iwerddon yn dilyn cyfnod llwyddiannus ac estynedig yn Llundain, lle gwerthwyd pob tocyn, mae’r cynhyrchiad cyffrous yma’n addo eich cadw chi ar ymyl eich sedd o’r dechrau i’r diwedd.
Daliwch yn dynn...
A night that leaves you spellbound. Jaw-clenchingly, arm-clutchingly thrillingThe Guardian
A chilling evening: a cracking ghost story so skilfully delivered that it might follow you homeFinancial Times

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!







