NT Live: The Motive & The Cue (Encore)

See dates and times   –

Mae'r ddrama bum seren rymus a doniol yma’n dychwelyd i'r sgrin fawr. Mae Sam Mendes (The Lehman Trilogy) yn cyfarwyddo Mark Gatiss mewn perfformiad a enillodd Wobr Olivier fel John Gielgud.

1964: Mae Richard Burton (Johnny Flynn), sydd newydd briodi Elizabeth Taylor (Tuppence Middleton), ar fin chwarae’r brif ran mewn cynhyrchiad arbrofol newydd o Hamlet ar Broadway, o dan gyfarwyddyd manwl Gielgud. Ond wrth i'r ymarferion fynd rhagddynt, mae dau gyfnod gwahanol ym myd y theatr yn gwrthdaro, ac mae'r cydweithredu rhwng yr actor a'r cyfarwyddwr yn bygwth chwalu.

Gan yr awdur Jack Thorne (Adolescence), sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau, cafodd y cynhyrchiad rhagorol yma ei ffilmio'n fyw yn ystod ei rediad yn Llundain yn 2023, lle gwerthwyd pob tocyn.