🔐 Sicrhewch fynediad cynnar i'n sioeau mwyaf poblogaidd!
Mae Aelodaeth Cyfeillion yn rhoi blaenoriaeth i chi archebu - ymunwch nawr a sicrhewch eich sedd.
Tocynnau i aelodau ar werth 16 Mehefin
Tocynnau i’r cyhoedd ar werth 23 Mehefin
Mae Morgan Elwy wedi creu sain unigryw drwy gyfuno treftadaeth ieithyddol Gymreig â dylanwadau reggae rhyngwladol. Mae ei gerddoriaeth yn asio elfennau o dub, reggae a blues, gan gyflwyno negeseuon cydwybodol o heddwch, hunaniaeth ac amser da!
Ers rhyddhau ei albwm cyntaf Teimlo’r Awen (2021), ac yna Dub yn y Pub (2024) a Amser Da mewn Amser Drwg (2026), mae Morgan wedi dod yn eiriolwr dros ddiwylliant soundsystem tanddaearol Cymru a’r sîn gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n perfformio’n rheolaidd gyda band llawn ac ochr yn ochr â DJs, gan arddangos ei arddull unigryw a gwreiddiol.
Rhan o Ŵyl Daniel Owen.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



