Y Daith Pob Cais. Mae Leveret yn trosglwyddo'r awenau i chi!
Am y tro cyntaf erioed, mae eu catalog recordiau cyfan ar y bwrdd — a’r gynulleidfa fydd yn dewis y set bob nos. Wrth i chi gyrraedd, byddwch yn cael gwahoddiad i ysgrifennu eich hoff ganeuon a'u rhoi yn y bocs ceisiadau. Wedyn, yn fyw ar y llwyfan, bydd Leveret yn eu tynnu nhw allan ac yn dod â'ch dewisiadau'n fyw.
Dim dwy noson yr un fath. Hen ffefrynnau, alawon llai adnabyddus — mae'r cyfan yn bosibl, a chi sy’n dewis y cyfan hefyd.
Dewch yn barod i wrando, i gael eich synnu ac i synnu'r band!

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



