His name is magic, his poems are songs on the streetIndependent
Sut mae llywodraeth yn dwyn plentyn ac wedyn yn ei garcharu? Sut mae’n cadw hynny’n gyfrinach? Dyma stori sy’n egluro sut.
Mae My Name is Why yn adrodd stori Lemn Sissay: stori am esgeulustod a phenderfyniad, anlwc a gobaith, creulondeb ac, yn y pen draw, buddugoliaeth.
Yn enillydd Medal Barddoniaeth Hay 2024, mae Lemn Sissay OBE FRSL yn ddramodydd, awdur hunangofiannau, perfformiwr a darlledwr. Roedd ei hunangofiant, My Name is Why, yn Rhif Un ymhlith Gwerthwyr Gorau y Sunday Times.
Yn un ar bymtheg oed, ar ôl plentyndod gyda theulu maeth a chwe blynedd wedyn mewn cartrefi gofal, cafodd Norman Greenwood ei dystysgrif geni. Dysgodd nad Norman oedd ei enw go iawn, ond Lemn Sissay. Roedd yn Brydeiniwr ac yn Ethiopiad. A dysgodd fod ei fam wedi bod yn erfyn am iddo gael ei ddychwelyd yn ddiogel iddi ers iddo gael ei eni.
Mae'r digwyddiad unigryw yma’n gyfle i glywed adlewyrchu Lemn ar blentyndod a dreuliwyd mewn gofal ac ar hunanfynegiant a Phrydeindod, ac wrth wneud hynny, mae'n ein helpu ni i ddeall y system ofal sefydliadol, hil, teulu, a beth mae cartref yn ei olygu.
Wedi'i ysgrifennu gyda'r ddawn farddonol a'r pŵer y byddech chi’n eu disgwyl gan un o hoff feirdd y wlad, mae'r cofnod teimladwy yma’n deillio o fywyd a dreuliwyd yn gofyn cwestiynau, ac mae'n ddathliad o allu creadigrwydd i achub pobl. Yn 2022, cafodd Lemn ei wneud yn Gymrawd y Royal Society of Literature. Ym mis Medi 2024, cafodd ei wneud yn gymrawd anrhydeddus Coleg Mansfield, Rhydychen, ac yn 2020 daeth yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Iesu, Caergrawnt. Derbyniodd Lemn MBE am ei wasanaeth i lenyddiaeth, a gyflwynwyd gan y Frenhines ym Mhalas Buckingham, ac wedyn cafodd OBE am ei wasanaeth i Lenyddiaeth ac Elusen, a gyflwynwyd gan y Brenin Charles yng Nghastell Windsor yn 2023. Roedd Lemn yn Ganghellor Prifysgol Manceinion rhwng 2015 a 2023.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda'r gynulleidfa a chyfle i gael llyfrau wedi'u llofnodi.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



