An Evening with Nigel Owens

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Mae’n bleser gan Dukes Entertainment gyflwyno noson i chi gydag un o Ddyfarnwyr Rygbi gorau'r byd - Nigel Owens MBE. Ar ôl chwarae i dorf lawn mewn lleoliadau ledled y DU, mae Nigel yma i rannu nifer o straeon am ddigwyddiadau ar ac oddi ar y cae.

Mae Nigel yn un o'r cymeriadau difyrraf a doniolaf yn y byd Rygbi'r Undeb, gan sicrhau dilyniant rhyngwladol o gefnogwyr ac edmygwyr gyda'i ffraethineb ac yn wir, ei degwch.

. Fo hefyd ydi'r unig ddyfarnwr i gael ei benodi ar gyfer tair rownd derfynol Cwpan Heineken yn olynol a bydd yn enwog ac yn cael ei edmygu am byth am arddangos synnwyr digrifwch sych wrth ddelio â chwaraewyr yng ngwres y frwydr.

Dyma noson na ddylai unrhyw gefnogwr chwaraeon ei cholli wrth iddo adrodd straeon am ei fywyd a'i yrfa. Bydd cyfle hefyd am sesiwn Holi ac Ateb byw yn ail hanner y noson i ofyn unrhyw beth i Nigel (yn answyddogol!).


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!