Layton Williams: Layton Live

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Mae Layton Williams, enillydd Gwobr Olivier ac enwebai am Wobr Tony, yn camu i'r llwyfan ar gyfer dau berfformiad rhagolwg unigryw o'i sioe newydd sbon.

I nodi 20 mlynedd ers iddo ymddangos ar y llwyfan am y tro cyntaf, bydd Layton yn mynd â chi ar daith gerddorol gyflym drwy ei yrfa – o Billy Elliot i Titanique, gan alw heibio Cabaret, Hairspray, Everybody’s Talking About Jamie, ystafell ddosbarth Bad Education a llawr dawnsio Strictly.

Gyda chefnogaeth grŵp bach ond pwerus o ddawnswyr a cherddorion byw, ymunwch â Layton mewn sioe sy'n addo straeon bythgofiadwy, lleisiau disglair a dawnsfeydd eiconig.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!