The Music of Adele - The Candlelight Concert

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu gan noson fythgofiadwy o gerddoriaeth sy'n cyffwrdd â'r enaid wrth i Xperience Live gyflwyno ‘The Music of Adele – The Candlelight Concert’. Wedi'i amgylchynu gan fôr cynnes a disglair o ganhwyllau, mae'r profiad byw syfrdanol yma’n dathlu artistwaith oesol un o leisiau mwyaf eiconig y byd.

Yn cynnwys y gantores sydd wedi ennill clod rhyngwladol a chystadleuydd yn rownd derfynol ‘The Voice’, Naomi Johnson, y mae ei llais pwerus a'i dyfnder emosiynol yn dal ysbryd Adele gyda didwylledd syfrdanol, mae'r sioe yma’n dod â chaneuon gorau Adele yn fyw mewn ffordd gwbl unigryw. Gyda chefnogaeth band byw rhagorol, mae pob nodyn yn cael ei berfformio gyda chyfoeth, angerdd ac egni sinematig.

Bydd y gynulleidfa'n mwynhau siwrnai gyfareddol drwy ganeuon mwyaf poblogaidd Adele, gan gynnwys y rhai eiconig fel ‘Someone Like You’, ‘Rolling in the Deep’, ‘Hello’, ‘Set Fire to the Rain’, ‘Make You Feel My Love’, ‘When We Were Young’ a llawer mwy!

Os ydych chi'n gefnogwr oes neu'n darganfod hud cerddoriaeth Adele o'r newydd, mae'r deyrnged yma yng ngolau cannwyll yn addo noson o harddwch, emosiwn a rhagoriaeth cerddorol pur.

*Cyngerdd teyrnged ydi hwn. Does gan Xperience Live, Naomi Johnson na'r cynhyrchiad hwn ddim cysylltiad swyddogol ag Adele, ei thîm rheoli nac unrhyw endidau cysylltiedig, ac nid ydynt yn cael eu cymeradwyo ganddynt. Mae'r holl nodau masnach, y caneuon a’r hawlfreintiau’n eiddo i'w perchnogion priodol.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!