🔐 Sicrhewch fynediad cynnar i'n sioeau mwyaf poblogaidd!
Mae Aelodaeth Cyfeillion yn rhoi blaenoriaeth i chi archebu - ymunwch nawr a sicrhewch eich sedd.
Tocynnau i aelodau ar werth 16 Mehefin
Tocynnau iโr cyhoedd ar werth 23 Mehefin
Dewch i weld dathliad beiddgar o symudiad a cherddoriaeth gyda gwaith clodwiw Richard Chappell Dance, Hot House.
Mae Hot House yn berfformiad pwerus am gryfder cydgysylltiad, tosturi a dewrder, gan greu ton o wres ac egni ysbrydol sy'n pelydru ymhell y tu hwnt i'r llwyfan.
Gyda dawnsio cyfoes corfforol a chyffrous, goleuadau atmosfferig trawiadol, a thrac sain beiddgar sy'n cyfuno traddodiadau clasurol Tsieineaidd, Indiaidd ac Ewropeaidd รข phwls cerddoriaeth House a Garage, mae Hot House yn llythyr cariad at sut gall cerddoriaeth greu ysfa anorchfygol i symud a theimlo.
Yn byw yn Nyfnaint, mae Richard Chappell yn creu profiadau dawns cofiadwy a chyffrous i gynulleidfaoedd ledled y DU a thu hwnt, ar y llwyfan, y sgrin ac wyneb yn wyneb. Mae'r cwmni'n flaenllaw o ran cydweithredu rhyngddisgyblaethol ac mae wedi creu gweithiau ar gyfer y Royal Ballet and Opera, BBC Arts a Rambert yn y gorffennol.

Dwbl Dawns
Prynuโr ddau, arbed 10%
Aelodauโn arbed 15%
Sioeau Cynwys: Glas | Blue a Hot House

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!



