Fjord Gradd 15.

See dates and times   –

Mae menyw o Norwy (Renate Reinsve) a'i gŵr o Rwmania, sy'n ddyn crefyddol iawn (Sebastian Stan), yn symud gyda'u pump o blant i dref arfordirol anghysbell. Wrth i’w plant yn eu harddegau ddod yn nes at deulu cyfagos, mae tensiynau’n dechrau dwysáu pan mae eu cymuned newydd glos iawn yn dechrau cwestiynu eu credoau llym. Yn fuan, mae’r rhieni’n cael eu gorfodi i ymateb i gyhuddiadau a allai chwalu eu cartref – ac i frwydro yn erbyn system lle mae’r llinell rhwng pryder a rhagfarn yn aneglur.