Die Hard Gradd 15.

See dates and times  

Ar Noswyl Nadolig, mae’r ditectif caled o Efrog Newydd, John McClane, yn cyrraedd Los Angeles gyda'r nod o gymodi â'i wraig, Holly, ym mharti Nadolig ei chyflogwr.

Pan ddaw grŵp o droseddwyr arfog i darfu ar y parti, dan arweiniad y carismatig Hans Gruber, mae McClane yn llwyddo i osgoi cael ei ddal ac yn dechrau rhyfel un dyn yn erbyn y rhai sydd wedi cymryd gwystlon ac sy’n ceisio lladrata oddi ar y gorfforaeth tra'n cadw LAPD a'r FBI yn brysur drwy esgus bod yn derfysgwyr.

Gyda llai o ddynion, gynnau ac offer na’i elynion ar gyfer y dasg, mae McClane yn galw am help plismon lleol gyda’i grwsâd yn erbyn Gruber.