Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref
Perfectly scrumptiousThe List
Funny and compellingMini Travellers
Estynnwch eich llwyau pwdin yn barod am stori am ddyfalbarhad, tywysogion, dawnsfeydd palas, sliperi gwydr ac, ym, hufen iâ?
Dros y pedwar degawd diwethaf, mae Cinderella wedi dod yn gwmni hufen iâ mwyaf poblogaidd y deyrnas, gyda pharlwr ar bob cornel stryd. Ond sut daeth gwneuthurwr hufen iâ tlawd heb geiniog yn ei phoced yn fenyw fusnes amlfiliwnydd gyda'i hymerodraeth hufen iâ ei hun?
Yn y sioe gerdd newydd yma i deuluoedd a phlant, ymunwch â Talvi a Caldwell, gweithwyr ffyddlon Cinderella, wrth iddyn nhw rannu ei stori o garpiau i gyfoeth, a wynebu eu dyheadau a’u gobeithion eu hunain, a'r hud sydd y tu mewn i bob sgŵp o hufen iâ chwedlonol Cinderella.
Yn berffaith ar gyfer plant a theuluoedd fel ei gilydd, mae'r ailgread cerddorol cyffrous yma o glasur o stori dylwyth teg yn addo cyfuniad hyfryd o straeon, cerddoriaeth fyw syfrdanol, a hud theatrig a fydd yn cipio'ch calon chi ac yn tynnu dŵr o’ch dannedd.
Little Seeds Music yn cyflwyno Cinderella Ice Cream Seller Wedi'i hysgrifennu a'i chyfansoddi gan David Gibb
Addas ar gyfer 5+ oed