The Gruffalo

See dates and times  

5 Stars

The Scotsman

5 Stars

The Sunday Times
Archebu i aeolodau o 21 Hydref: : Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 28 Hydref

5 Stars

An absolute delight.
The Scotsman

5 Stars

An irresistibly charming tale told with refreshing simplicity.
The Sunday Times

Aeth llygoden am dro drwy’r goedwig dywyll, ddofn…

Ymunwch â Llygoden ar antur feiddgar drwy’r goedwig dywyll, ddofn yn addasiad hudolus, cerddorol Tall Stories o’r llyfr lluniau clasurol gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler - yn dathlu 25 mlynedd ar y llwyfan yn 2026.

Wrth chwilio am gnau cyll, mae Llygoden yn cwrdd â’r Llwynog cyfrwys, yr hen Dylluan egsentrig a’r Neidr llawn egni. A fydd stori’r Gruffalo dychrynllyd yn achub Llygoden rhag dod yn ginio i’r creaduriaid coetir llwglyd yma? Wedi’r cyfan, does dim byd tebyg i Gruffalo – nac oes?

Caneuon, chwerthin a hwyl bwystfilaidd yn y sioe yma sydd wedi teithio Prydain a’r byd!