Albert's Boy

See dates and times   –

Archebu i aeolodau o 13 Hyd: Cliciwch yma i ddod yn aelod
Archebu i’r cyhoedd o 20 Hyd

Mae'r actor, y comedïwr ac enillydd dwy Wobr Olivier, Griff Rhys Jones, yn serennu fel Albert Einstein yn nrama ddoniol a hynod deimladwy James Graham, sy'n taflu goleuni ar un o ffigyrau enwocaf hanes.

Dydi Albert Einstein ddim yn teimlo'n rhy dda. Mae ei dŷ yn wag, mae ei gath ar goll, dydi o ddim yn gallu cofio ble mae o wedi rhoi ei ffidil, ac mae'n gyrru ei hun yn wallgof yn araf bach wrth iddo geisio ateb y cwestiwn amhosib: Wnes i'r peth iawn?

Pan ddaw ffrind i'r teulu i ymweld, mae aduniad cynnes yn troi'n wrthdaro tanllyd yn fuan iawn rhwng credoau croes ynghylch drygioni, ennill rhyfeloedd, a chreu arf dinistr torfol cyntaf y byd – y bom atomig.

Albert's Boy oedd yr ail ddrama i gael ei hysgrifennu gan James Graham, sydd wedi mynd yn ei flaen i fod yn un o ddramodwyr ac awduron teledu mwyaf llwyddiannus Prydain (This House; Ink; Dear England; The Crown; Quiz; Sherwood) ac a enillodd Wobr Olivier am y Drama Newydd Orau yn 2026 (Punch).

Mae Griff Rhys Jones yn serennu ochr yn ochr â ffefryn y llwyfan a'r sgrin, Joe Absolom (EastEnders, Doc Martin), yn y cynhyrchiad newydd yma sydd wedi’i gyfarwyddo gan Terry Johnson, enillydd Gwobrau Tony ac Olivier.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!


Cast a Chreadigol