Blog: 1000 o Bobl

Mwy na 1,000 - dyna faint o bobl y mae wedi’i gymryd i sicrhau bod Theatr Clwyd bron yn barod i ailagor ei drysau i’r cyhoedd.
Nawr bod y penseiri, y bricwyr, y towyr a’r seiri coed wedi gorffen eu gwaith, rydyn ni'n edrych ymlaen at y diwrnod y cawn groesawu ein cynulleidfaoedd yn ôl.
Er ei bod yn amhosib enwi pob un o’r 1,000 o bobl sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith ailddatblygu, dyma rai sy’n gweithio tu ôl i’r llenni i sicrhau y bydd Theatr Clwyd yn well nag erioed.
David Powell, Dirprwy Reolwr GoleuoGweld gwaith y timau creadigol y tu ôl i gynyrchiadau mewnol Theatr Clwyd yw hoff elfen David Powell o’i swydd. Daeth yn Ddirprwy Reolwr Goleuo y llynedd ar ôl degawd o weithio yma – i ddechrau fel gweithiwr wrth gefn, ar ôl graddio o Brifysgol Wrecsam (Glyndŵr ar y pryd), ac yn ddiweddarach yn aelod parhaol o staff. Meddai David: “Mae’n wirioneddol ryfeddol faint o ymrwymiad ac ymroddiad y mae holl aelodau’r cwmni wedi’i roi i greu ein sioeau, ac rydw i’n falch o gael y cyfle i weithio’n agos gyda thimau gorau’r diwydiant. Mae’r broses ei hun yn gofyn am oriau hir a gwaith caled, ond mae gweld yr holl elfennau hynny'n cael eu gwireddu ar y llwyfan ar ein nosweithiau agoriadol yn fy ngwneud i'n falch iawn.” Mae swydd David yn gofyn iddo gydweithio ag amrywiaeth o dimau gwahanol yn Theatr Clwyd, yn ogystal ag ymweld â chwmnïau, i sicrhau bod y cynlluniau goleuo ar gyfer pob sioe yn cael eu gwireddu ar y llwyfan. Mae'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r adeilad, gyda'r holl nodweddion newydd y bydd yn eu cynnig i gynulleidfaoedd. Mae'n ychwanegu: “Fyddwn i ddim pwy ydw i heddiw heb yr holl gefnogaeth rydw i wedi’i chael yma. Rydw i’n falch o fod yn rhan o’r teulu hwnnw a byddaf bob amser yn gwerthfawrogi’r hyn y mae Theatr Clwyd wedi’i gynnig i mi hyd yma.” |


Andy Reilly-Price, Uwch Reolwr Profiad
O’r eiliad y byddwch chi’n camu drwy fynedfa newydd Theatr Clwyd, cewch groeso cynnes gan dîm Andy Reilly-Price. Fel Uwch Reolwr Profiad, ef a'i staff sy'n gyfrifol am eich ymweliad - o'ch argraff gyntaf, i ddod o hyd i'ch sedd yn un o'r awditoria neu'r sinema, i'ch diod yn y bar yn ystod yr egwyl.
Meddai: “Fy hoff beth yw cwrdd â’n hymwelwyr, clywed eu cyffro wrth drafod yr hyn maen nhw ar fin ei weld ar lwyfan neu ar y sgrin. Fy hoff adeg yw pan fydd perfformiad ar fin dechrau, y goleuadau’n cael eu gostwng, tawelwch yn disgyn a’r stori’n dechrau – mae’n hudolus.”
Mae Andy, a ymunodd â Theatr Clwyd yn 2017, yn dweud bod y sefydliad yn arbennig iddo oherwydd pa mor bwysig ydyw i gynifer o bobl.
Meddai: “Rydw i’n edrych ymlaen i’n hymwelwyr weld yr adeilad ar ei newydd wedd drostynt eu hunain. Mae’n cyd-fynd â’n hamgylchedd naturiol, ac mae’n adeilad celfyddydol modern y mae ein hymwelwyr yn ei haeddu. Mae’n adeilad sy'n llawn atgofion ac yn barod i greu mwy.”
Eleanor Brick, Cydlynydd Marchnata
Straeon oedd yn gyfrifol am ddenu Eleanor Brick i’r adran farchnata yn Theatr Clwyd, a’i lleoliad yn Wrecsam Neuadd William Aston, dros dair blynedd yn ôl.
“Mae gan y sefydliad gymaint o linynnau ac elfennau, ac rydw i wrth fy modd yn rhannu’r gwaith rydyn ni’n ei wneud,” meddai. “Boed hynny'n sioe newydd rydyn ni’n ei chreu neu’n grŵp gweithdy i bobl ifanc, yn rhaglen hyfforddi rydyn ni’n ei chynnal, neu’n rhywun sy’n gweithio i’r lleoliad am gyfnod hir o amser - mae cymaint o straeon i’w rhannu.”
Mae ei rôl yn cynnwys ysgrifennu datganiadau i'r wasg, trefnu ffotograffwyr, trefnu cyfweliadau gyda newyddiadurwyr, cynllunio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, helpu i greu rhaglenni sioe a mwy - mae hyn oll yn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn dod i wybod am gynyrchiadau a bod ganddynt ddigon o wybodaeth i benderfynu pa rai yr hoffent eu gweld.
Ychwanega Eleanor: “Datganiad cenhadaeth y sefydliad yw ‘Gwneud y byd yn lle hapusach un eiliad ar y tro’ ac rwy’n gweld pobl yn gweithio i gyflawni hynny bob dydd.”


Daniel Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt
Pan mae Daniel Lloyd yn cyfarwyddo panto roc a rôl Theatr Clwyd bob blwyddyn, mae’n gwybod yn iawn sut mae’r actorion y mae’n eu harwain yn teimlo. Ei swydd gyntaf yma oedd serennu yn Dick Whittington yn ôl yn 2005, heb unrhyw syniad o ble y byddai’r rôl a “wireddodd freuddwyd” yn ei arwain yn y pen draw.
Meddai: “Cefais fy magu gerllaw, yn Rhosllannerchrugog, ac mae Theatr Clwyd wedi bod yn ail gartref i mi erioed. Roedd dod yma i wylio sioeau pan oeddwn i'n blentyn yn cadarnhau fy uchelgais i weithio yn y celfyddydau ac rydw i wedi bod yn lwcus cael ymddangos mewn llawer o sioeau yma. Nawr rydw i'n cael eu creu nhw yma ac mae'n gymaint o fraint.”
Mae cydweithio yn allweddol i’w rôl fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol, y mae wedi bod yn ei gwneud am y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae angen llawer o bobl i ddod â sioe yn fyw – yn awduron, actorion, dylunwyr, coreograffwyr, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ymladd, rheolwyr cynhyrchu, technegwyr a pheirianwyr,” meddai Daniel, sy’n Gymro Cymraeg ac felly'n gyfrifol am arwain llawer o brosiectau Cymraeg Theatr Clwyd.
“Mae pob diwrnod yn wahanol. Fi sy’n cyfarwyddo’r panto roc a rôl ond hefyd rydw i’n beirniadu Medal Ddrama’r Eisteddfod, yn datblygu dulliau ysgrifennu Cymraeg newydd ac ar hyn o bryd yn arweinydd creadigol ar sioe gymunedol i ddathlu’r theatr yn ailagor. Alla’ i ddim aros i weld sut mae’r adeilad wedi esblygu, pa mor brydferth y bydd, a sut y gall ddod yn gartref ysbrydoledig i lawer mwy o bobl am flynyddoedd i ddod.”