Blog: Ailddatblygiad Theatr Clwyd Andrew Roberts

Y Fersiwn Hir (gyda lluniau)

[5 munud o ddarllen]

By Andrew Roberts | Tîm Cefnogi’r Cwmni

"Theatr Clwyd has been my working home since 2016..."

Mae Theatr Clwyd wedi bod yn gartref gwaith i mi ers 2016. Fe wnes i ddechrau ar yr un diwrnod â Liam (Cyfarwyddwr Gweithredol) ac o'r diwrnod cyntaf un hwnnw roedd y datblygiad yma ar fy radar i. Dydw i ddim yn gallu credu ein bod ni yma ar ôl edrych ar y cynlluniau hyn am amser mor hir...

Llun o Theatr Clwyd o'r tu allan. Mae'r adeilad yn cael ei adeiladu gyda sgaffaldiau a byrddau pren o amgylch y safle. Awyr las heulog.
Credyd: Mark Carline

Llun o ddau ddyn mewn dillad llachar a hetiau caled ar y safle adeiladu. Mae'r ddau yn rhan o'r uwch dîm arwain, yn sefyll yng nghyntedd ein hadeilad newydd.

Credyd: Mark Carline

Mae'r lleoliad wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd i ers blynyddoedd lawer. Gan fy mod i’n fachgen wedi’i eni a’i fagu yn Wrecsam, hon oedd fy theatr leol i yn blentyn, ac roedden ni’n dod yma’n aml. Rydw i'n cofio gweld nifer o wahanol sioeau, gyda'r panto bob amser yn ffefryn. Ers hynny, mae theatr wedi bod yn hobi i mi fel rhan o grŵp theatr gymunedol Tip Top Productions. Rydw i gefn llwyfan bob amser, dim ond yn ystod newid golygfa y byddwch chi'n fy nal i ar y llwyfan! ’Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gweithio yn y theatr ond dyma fi…

Gan nad oes gen i unrhyw gefndir ym maes adeiladu, mae gweithio gyda’n penseiri ni, Haworth Tompkins, yn hynod ddiddorol i mi. Mewn rhai ffyrdd mae fel theatr. Rydych chi'n dechrau gyda chynllun a darluniau, wedyn model. Rydyn ni wedi cael model a fideos o sut gallai’r adeilad edrych, ac mae’r rhain wedi newid yn ystod y broses. Wrth gwrs, mae'n raddfa wahanol iawn ond mae’n syndod faint o debygrwydd sydd rhwng hyn a'r byd rydw i'n gweithio ynddo. Mae penseiri yn bobl anhygoel, mae gweithio gyda Haworth Tompkins wedi bod yn agoriad llygad i mi - maen nhw wir yn deall pa mor bwysig ydi'r adeilad yma i gymaint o bobl a'r weledigaeth ar gyfer ei ddyfodol. Mae'r penseiri wedi ystyried pawb, o wella profiad y gynulleidfa yn ein gofod blaen tŷ i’n hactorion a fydd yn elwa o gyfleusterau ystafell wisgo newydd sbon gan gynnwys drychau. (Drwy roi eich enw yn erbyn drych ystafell wisgo, byddwch yn cefnogi ein gwaith ailddatblygu yn uniongyrchol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.)

Wrth i mi sefyll o flaen yr adeilad mae'n edrych mor wahanol i'r adeg pan wnes i sefyll yma 6 wythnos yn ôl, heb sôn am 7 mlynedd yn ôl. Mae blaen yr adeilad wedi dod allan – 30 troedfedd o flaen yr hen adeilad erbyn hyn. Fe ddigwyddodd hyn mewn 6 i 8 wythnos. Roedd yn newid o awr ar awr. Mae'r estyniad pren glwlam mor drawiadol. Mae trawstiau glwlam wedi'u gwneud o lawer o haenau o bren wedi'u gludo gyda’i gilydd gan greu un darn. Mae’n ddeunydd hardd sydd wedi’i wneud gan Constructional Timber, busnes teuluol wnaeth ddylunio a gweithgynhyrchu’r strwythur yma. Maen nhw hefyd wedi bod ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu. Mae'r ychydig fisoedd diwethaf yma wedi bod yn foment mor unigryw ar ein siwrnai ni ac maen nhw wedi bod yn wych i weithio gyda nhw yn ystod y cyfnod yma.

Llun o estyniad pren newydd ei adeiladu. Gellir gweld y to pren. Ei bren oren llachar. Mae'r llawr yn llwyd.
Credyd: Mark Carline
Llun o estyniad pren gyda'r haul yn tywynnu drwy'r ffenestri.
Credyd: Mark Carline

Wrth gerdded i mewn i'r cyntedd mae natur agored y gofod yma’n fy syfrdanu i. Bellach mae gennym ni risiau newydd sbon. Cyn nawr, dim ond mewn lluniau ydw i wedi gweld y grisiau, wythnos neu ddwy yn ôl roedd yn llinell ar y llawr ond nawr mae yma. Fe fydd copr yn rhedeg i fyny'r wal a fydd, dros amser, yn pylu ac yn adrodd ei stori ei hun am yr ymwelwyr sydd wedi cerdded drwy'r adeilad. Bydd desg groeso a bydd y siop yn dychwelyd gyda chyflenwadau ffres i'w prynu. Hwn hefyd fydd y porth i’n hystafelloedd iechyd a lles ni, mannau penodol a chyfleusterau ar gyfer ein rhaglenni celfyddydau ac iechyd sydd wedi ennill gwobrau. Ac wrth gwrs, cysylltiad â byd natur - drws allan i'n gerddi lles ni a'n hardal deuluol. Cyfleuster newydd sbon nad ydym wedi'i gael erioed o'r blaen a fydd yn rhoi cymaint o lawenydd a hwyl.

Llun penseiri o sut fydd Theatr Clwyd yn edrych yn ardal y bwyty. Mae byrddau a chadeiriau a goleuadau.
Credyd: Haworth Tompkins

Wrth gerdded i fyny i'r llawr 1af mae siafftiau’r lifft newydd yn eu lle bellach. Yn ystod fy amser i yma mae'r hen lifftiau wedi achosi cymaint o broblemau. Yn ystod fy wythnos gyntaf i roedd sioe wedi gwerthu pob tocyn, ac fe dorrodd y lifft. Roedd ein timau ni'n anhygoel, gan helpu pawb, ac ochr yn ochr â'r frigâd dân fe gafodd y broblem ei datrys. Rydw i’n cofio anfon llun o’r injan dân at y tîm yn dweud nad oedden ni ar dân, dim ond bod y lifftiau’n styc! Gobeithio y bydd digwyddiadau fel hyn yn rhywbeth sy’n perthyn i'r gorffennol!

Mae'r olygfa yn y bar wedi bod yn anhygoel erioed ond nawr mae'r estyniad yn gwneud y gorau ohoni yn ogystal â bod yn fwy agored fyth. Wythnos yn ôl, doedd gennym ni ddim ffenestri a nawr maen nhw'n dechrau mynd i mewn, sydd mor gyffrous. Fe fydd ein bwyty ni yn y gofod yma gyda'r bar yn sgubo i lawr coridor yr oriel.

Llun o estyniad pren o'r trydydd llawr yn edrych i lawr i'r ail lawr. Mae'r gofod yn llachar ac yn olau. Mae yna ffens felen.
Credyd: Mark Carline

Fe aethon ni allan i dendr ar gyfer ein partner arlwyo newydd yng ngwanwyn 2023. Roedden ni’n agored i bob syniad o ran beth allai hwn fod, ond roedden ni’n gwybod ein bod ni eisiau cynnyrch lleol a chyflenwyr lleol. Fe fydd y bwyty ar gyfer pawb, i fachu tamaid cyn sioe, ffilm, neu weithdy a bwyty cyrchfan y mae pobl yn dod iddo. Mae hefyd yn faes arall ar gyfer recriwtio, sy'n wych. Rhwng nawr a phan fyddwn ni’n agor, rydyn ni’n disgwyl y bydd mwy na 40 o swyddi newydd ar draws y cwmni gyda phob maes yn tyfu. Mae Theatr Clwyd yn cael effaith economaidd gadarnhaol enfawr ar gyfer Sir y Fflint a Gogledd Cymru fel cyflogwr mawr ond hefyd atyniad twristiaid a phartner addysgol.

Wrth ymweld â’r brif theatr, mae’n fwrlwm o weithgarwch. Mae’n dechrau cael ei hailadeiladu bellach ar ôl cael ei gwagio. Mae'r seddi wedi mynd! Ar hyn o bryd rydyn ni’n edrych ar seddi sampl i sicrhau eu bod nhw mor gyfforddus â phosib. (Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi enwi sedd? Mae mwy o wybodaeth ar gael yma) Mae llawr newydd wedi'i osod ar y llwyfan ei hun, sydd mor hanfodol ar gyfer ein cynyrchiadau ni o safon byd-eang. Mae'r hen system hedfan (a oedd yn dyddio o'r 1970au yn wreiddiol) wedi cael ei thynnu ac mae’n cael ei diweddaru ar hyn o bryd ynghyd â’r systemau awyru.

Llun o lwyfan Theatr Clwyd yn edrych allan i'r awditoriwm. Does dim seddi yn yr awditoriwm. Mae sgaffaldiau yn y gofod.
Credyd: Mark Carline
Llun o sinema heb seddi a phopeth wedi'i rwygo allan.
Credyd: Mark Carline

Wrth droi i lawr tuag at yr oriel rydw i'n cerdded y llwybr sydd wedi'i gerdded sawl gwaith tuag at y sinema. Mae'r sinema’n amhosib ei hadnabod ar hyn o bryd gyda phopeth wedi'i dynnu allan. Mae’n un o’r cwestiynau sy’n cael ei holi fwyaf, “’fydd yna sinema” ac wrth gwrs yr ateb ydi BYDD!

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei hailagor!

Llun o ystafell ymarfer newydd. Mae'r gofod yn wag ond yn fawr. Mae’r llawr yn llwyd ac mae nenfwd o drawstiau pren.
Credyd: Mark Carline

Un newid mawr yn ddiweddar ydi'r ystafell ymarfer newydd, oedd yn arfer bod yn swyddfeydd. Roedden ni wedi mynd tua 6 wythnos efallai heb ei gweld, roedd llawer o sgaffaldiau y tu mewn a dim to. Nawr mae ganddi do, dwbl yr uchder roedd hi’n arfer bod ac mae'n dal dŵr.

Bydd cael y nenfydau uchel ychwanegol yma’n gwneud byd o wahaniaeth wrth ymarfer sioe oherwydd fe fyddwn ni’n gallu cael setiau maint llawn yn y gofod, rhywbeth nad oedden ni’n gallu ei wneud erioed o'r blaen.

Llun o weithdy newydd sy'n cael ei adeiladu. To metel a rhywfaint o rwbel yn y gofod.
Credyd: Mark Carline

O'n hail ystafell ymarfer (yng nghefn yr un yma) fe allwn ni edrych i lawr i'r gofod gweithdy adeiladu golygfeydd newydd sbon. Roedd hwn yn arfer edrych ar y byd tu allan, nawr mae gan yr estyniad newydd waliau a tho. Mae tîm y gweithdy wedi bod yn yr Wyddgrug erioed ond nawr fe fyddwn ni i gyd o dan yr un to. Fe fydd llawer o ymwelwyr wedi gweld hwn yn cael ei adeiladu pan ddaethon nhw i’r panto yn y Babell Fawr. Mae Theatr Clwyd mor unigryw i gael y cyfleuster yma ac yn olaf fe fydd ymwelwyr yn gallu gweld y gwaith o adeiladu setiau yn digwydd o'r oriel wylio gyhoeddus.

Wrth fynd allan o’r safle adeiladu heibio’r cae lle’r oedd y Babell Fawr, rydw i’n cael fy atgoffa o’r dasg enfawr oedd hynny. Y panto ydi sioe fwya’r flwyddyn i ni a’r unig ffordd ymarferol o’i gynnal ar gyfer Nadolig 2023 oedd mewn Pabell Fawr. Roedd yn 18 mis o gynllunio a 18 wythnos yn ei gyflwyno. Hon oedd her fwyaf ein prosiect ailddatblygu ni hyd yn hyn ac rydw i mor ddiolchgar i’n cynulleidfa ni am ddod ar y siwrnai honno gyda ni. Mae pob un person weithiodd ar y Babell Fawr wedi bod yn aruthrol, rydw i mor falch o’r hyn mae’r timau wedi’i gyflawni. Roedd y tywydd yn gymaint o her – y gwynt gwaethaf rydyn ni wedi’i brofi ers amser maith!

Mae 2024 yn mynd i fod yn flwyddyn mor gyffrous. Rydyn ni’n ailagor Theatr Mix ar gyfer tair sioe Theatr Clwyd, Kill Thy Neighbour, Constellations, a’r sioe honno yn y Gymraeg, Cytserau, a Rope, yn ogystal ag amrywiaeth o waith ar daith. Mae Neuadd William Aston yn ffynnu hefyd gyda mwy o ddigwyddiadau'n cael eu hychwanegu drwy'r amser.

Mae Theatr Clwyd wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd i, yn union fel cymaint ohonoch chi. Mae fy nghartref gwaith i am yr 8 mlynedd diwethaf wedi newid ac esblygu. Mae ei ddyfodol yn edrych mor gyffrous, a dydw i ddim yn gallu aros i rannu'r camau nesaf gyda chi i gyd yn fuan iawn.