Asesu, Adfywio, Ailagor!

Sut bydd Theatr Clwyd yn agor ei drysau.
Gan Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd

Mae ychydig dros 3 blynedd wedi mynd heibio ers iโn prosiect adeiladu mawr ni ddechrauโn llawn. Rydw iโn gallu cyfaddef nawr - roedd yn frawychus. Roedd cymaint o elfennau enfawr, anhysbys yn rhan oโr gwaith o adnewyddu adeilad o oedran Theatr Clwyd. Fe ddaethon ni ar draws asbestos annisgwyl, wynebu problemau gyda chyflenwadau byd-eang oherwydd y rhyfel yn Wcrรกin, a darganfod cyfrinachau adeiladu rhyfeddol y tu รดl i haenau o bapur wal a nenfydau concrit.
Er gwaethaโr heriau hyn, rydyn niโn gweld y llinell derfyn. Mae'r adeilad yn edrych yn brydferth โ yn syfrdanol hyd yn oed - ac rydyn ni ar y trywydd iawn i ailagor yn llawn yn fuan iawn.
Felly, pryd fyddwn ni'n agor?โจ
Mae hwn wedi bod yn brosiect unigryw. Fe wnaethon ni gau fesul cam, gan alluogi i ni barhau i lwyfannu cynyrchiadau wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Ar รดl cau yn llwyr yn y diwedd, fe wnaethon ni symud i Theatr Mix aโr Babell Fawr - ein lleoliadau ni dros dro. Er bod y llefydd yma wedi cyflwyno heriau hefyd - glaw, canslo oherwydd gwynt, a dyddiau rhewllyd - fe wnaethon ni wneud y safleโn gartref, diolch i chi.
Roedd y dull fesul cam yma o weithioโn galluogi i ni weithioโn ddoethach โ gan leihauโr cyfnod ar gau, cadw ein tรฎm ni gydaโi gilydd, cynhyrchu sioeau o safon byd, a pharhau รขโn gwaith cymunedol.
A nawr, fe fyddwn niโn ailagor fesul cam hefyd:
- 2 Mehefin: Theatr Moondance (Anthony Hopkins gynt) a'n cynteddau ni ar y llawr gwaelod aโr llawr cyntaf. Bydd ein gweithdy newydd niโn weithredol hefyd โ i adeiladu ein setiau ar gyfer sioeauโr hydref!
- Canol mis Gorffennaf: Bryn Williams yn Theatr Clwyd (ein bwyty newydd). Mae ychydig o oedi wedi bod gyda'r bwyty - y tu hwnt i'n rheolaeth ni a Bryn. Fodd bynnag, o ddechrau mis Mehefin ymlaen, byddwn yn cynnig opsiynau bachu a mynd oโr llawr gwaelod โ brechdanau, cacennau a choffi โ tra bydd y gegin yn cael ei chwblhau, aโr profion terfynol.
- 24 Gorffennaf: Ein cynhyrchiad agoriadol ni yn Theatr Weston (Theatr Emlyn Williams gynt) wediโi greu gyda a chan bobl ifanc, On Wednesdays We Wear Pink. Bydd enw Emlyn yn aros yn ein hadeilad ni ac, yn briodol, dyma fydd enw ein hystafell awduron newydd.
- Diwedd mis Gorffennaf: Ein sinema (yn gynharach o bosibl - gwyliwch y gofod yma!).
- Dechrau mis Awst i ganol mis Medi: Popeth arall, gan gynnwys gosodiadau celf cyhoeddus, gofod digwyddiadau a dodrefn terfynol.


Cyffyrddiadau Terfynol a Mรขn Broblemau
Dydiโr gwaith adeiladu ddim yn gorffen yr eiliad y maeโr drysau'n agor. Dros y misoedd nesaf, fe fyddwn niโn rhoi sylw i fรขn broblemau, yn rhoi dodrefn at ei gilydd a gosodiadau yn eu lle, ac yn ychwanegu teils trawiadol wedi'u gwneud รข llaw a chelf gyhoeddus.Dyddiadau Allweddol ar gyfer Eich Dyddiadur
- 2 Mehefin: Sioe gyntaf - Tick, Tickโฆ BOOM! yn Theatr Moondance
- 2 Mehefin: Cynteddauโr llawr gwaelod aโr llawr cyntaf yn agor
- 24 Gorffennaf:On Wednesdays We Wear Pink yn agor yn Theatr Weston.
- Diwedd mis Gorffennaf: Y Sinema aโr orielau yn agor (yn gynharach o bosibl)
- Diwedd mis Mehefin โ mis Awst: Arddangosfa Agored Gogledd Cymru
- Canol mis Awst: Playces (ein harddangosfa ryngweithiol newydd)
Rydyn ni mor agos, ac maeโr tรฎm cyfan yn edrych ymlaen at eich croesawu chiโn รดl iโch Theatr Clwyd newydd!