Blog: Ailddatblygiad Theatr Clwyd: pawb o dan yr un to.
Y Fersiwn Hir (gyda lluniau)
[1399 words | 5 munud o ddarllen]
Gan Hannah Lobb | Pennaeth Cynhyrchu, Teulu Creu Theatr
Rydw i wedi gweithio yn Theatr Clwyd ers 16 mlynedd ac wedi gweld llawer o newidiadau dros y cyfnod hwnnw. Yr un yma wrth gwrs yw'r mwyaf a'r mwyaf cyffrous o ddigon.

Rydw i wedi bod yn gweithio yn y theatr ers cyn i mi raddio. Yn 16 oed fe ddywedodd athrawes ddrama wych wrthaโ i bod gyrfa cefn llwyfan yn opsiwn real iโr rhai ohonom ni oedd yn caruโr celfyddydau ond ddim eisiau perfformioโฆ ac o, roedd hi yn llygad ei lle!
Fe wnes i astudio rheolaeth llwyfan a theatr dechnegol yng Ngholeg Rose Bruford. Rydw i wedi gweithio ar rai cynyrchiadau anhygoel dros y blynyddoedd, ar hyd a lled y wlad ac mewn amrywiaeth o swyddi rheoli llwyfan gwahanol.
Roeddwn iโn gweithio yn Harrogate yn 2008 pan glywais i am rรดl Dirprwy Reolwr Cynhyrchu yn Theatr Clwyd. Ar รดl gweithio yng Nghaer cyn hynny, roeddwn i eisoes yn gwybod am enw gwych y lleoliad ac, ar รดl 12 mlynedd o reoli llwyfan, fe wnes i feddwl y byddwn iโn mynd amdani.

Symud ymlaen yn gyflym 16 mlynedd a fi ywโr Pennaeth Cynhyrchu, a does dim dau ddiwrnod yr un fath. Rydw i'n gofalu am y tรฎm cynhyrchu sy'n cynnwys y gweithdy adeiladu golygfeydd, ein timau celf golygfeydd ac adeiladu ni, y timau gwisgoedd aโr timau goleuo a sain. Rydw i'n gwneud yn siลตr bod pawb yn siarad gydaโi gilydd wrth greu ac adeiladu sioe, rydw i'n helpu i gydlynuโr cyllidebau aโr amserlenni, ac mae gen i hefyd wybodaeth am y sioeau syโn ymweld รข ni ar daith, neu syโn cael eu cyflwyno gan ein grwpiau theatr lleol, aโr hyn y bydd arnyn nhw ei angen gan ein tรฎm ni. Mae'n boncyrs ond yn wych a โfydd yr adeilad newydd yn ddim gwahanol.
Ers i mi ddechrau yma, mae ein hadran ni wedi gweithio ar draws sawl safle erioed. Mae tรฎm y gweithdy adeiladu wedi bod oddi ar y safle bob amser, wedi'i leoli ym Mharc Busnes yr Wyddgrug ers 2006. Mae'r tรฎm yn adeiladu'r holl setiau yn y gofod yma cyn eu cludo i'r theatr. Bydd ein tรฎm golygfeydd niโn eu paentio yn ein siop baentio, sy'n cynnwys ffrรขm paent. Rydyn ni mor ffodus o gael y gofod yma ac yn un o ychydig iawn o leoliadau i gael un yn y DU. Mae'n golygu bod ein defnyddiau niโn gallu cael eu hongian a'u paentio, ac wedyn eu symud drws nesaf yn syth ar y llwyfan.
Mae gennym ni hefyd gyfleusterau storio sy'n cadw rhai o'r gwisgoedd a'r golygfeydd sydd wedi'u gwneud dros y blynyddoedd.

Ym mis Ionawr 2022 pan wnaethon ni symud allan o Theatr Clwyd iโn swyddfeydd dros dro ni yn yr Wyddgrug, roedden niโn gwybod ein bod niโn wynebu mwy o heriau. Roedden ni bellach wedi ein lleoli ar draws mwy o safleoedd nag erioed o'r blaen. Fe symudodd ein tรฎm gwisgoedd ni allan oโr adeilad ac i ystafell waith gwisgoedd yn ein swyddfeydd ni yn yr Wyddgrug, roedd gan ein timau technegol ni swyddfa wediโi lleoli ar safleโr theatr ac fe wnaethon ni ychwanegu gofod perfformio newydd, Theatr Mix aโr Babell Fawr.


Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi creu cynyrchiadau anhygoel. Maeโr rhain wedi cynnwys Milky Peaks, Celebrated Virgins, A Pretty Shitty Love, The Great Gatsby (yn Nhafarn y Dolphin yn yr Wyddgrug) Truth or Dare, Fleabag (fersiwn Gymraeg), Sleeping Beauty (yn y Babell Fawr), Kill Thy Neighbour, Constellations / Cytsearu a Rope, ac rydyn ni wedi croesawu mwy nag 80 o ymweliadau gan sioeau cymunedol. Mae'n deg dweud nad ydi hi wedi bod yn dawel!






Mae creuโr sioeau yma ar draws sawl lleoliad wedi bod yn her enfawr ond hefyd yn llwyddiant ysgubol. Mae cyfathrebu rhwng y timau wedi bod yn hollbwysig, yn enwedig wrth symud rhwng safleoedd. Mae wedi bod yn ddwy flynedd anhygoel ond nawr rydyn niโn edrych ymlaen at ein dyfodol cyffrous newydd.
Fe wnaethon ni ffarwelio รข The Mix ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf a chymryd yr awenau yn Moondance Theatr ar gyfer Mother Goose. Roedd yn enfawr bod yn รดl yn y gofod ac fe gawson ni flas ar yr hyn sydd i ddod yn fuan.



Mae'r dyfodol mor gyffrous i feddwl amdano. Mae'r gofod wedi bod yn anhygoel bob amser, ond roedd yn heneiddio ac roedd y dechnoleg oedd yn ei lle y tu hwnt i ddiwedd ei hoes. Bydd y dechnoleg fodern yn gwneud pethauโn effeithlon, yn ddibynadwy ac yn gyson โ heb oleuadau dimio a cheblau 45 oed yn hongian wrth edau main yn y golwg! Yr hyn sydd wedi bod yn wych am yr ailddatblygiad ydi ein bod ni wedi bod yn rhan o rywfaint oโr broses gwneud penderfyniadau. Fel tรฎm, rydyn niโn adnabod gofod y theatr tu chwith allan ac mae wedi bod yn wych cael mewnbwn iโr hyn yr hoffem ei weld. Maeโn gyfle i ddiweddaru a newid elfennau oโr gofod sydd erioed wedi gweithio i ni. Rydyn ni wedi cael gweithdy adeiladu newydd wediโi adeiladu yng nghefn adeilad y theatr iโn galluogi ni i greu ein holl olygfeydd ar y safle. Rydyn ni wedi cael yr ystafelloedd ymarfer wediโu hailfodelu, ac mae un wedi cael ei gwneud yn ddwbl yr uchder er mwyn i ni allu creu llwyfannau iโr actorion ymarfer arnyn nhw. Rydyn ni'n ychwanegu bariau goleuo newydd mewn mannau lle rydyn ni'n gwybod bod arnom ni eu hangen ac rydyn ni'n ychwanegu bariau symudol i'r gridiau yn y ddwy theatr i roi mwy o hyblygrwydd i ni yn ogystal รข bod yn ddiogelach i'r tรฎm. Rydyn niโn uwchraddioโr seilwaith i ganiatรกu ar gyfer rhaglennu offer goleuo deallus modern yn fwy penodol nag erioed, ond maeโr rhain angen socedi data yn ogystal รข socedi pลตer. Ac rydyn ni wedi gwneud ein mannau cefn llwyfan aโn hystafelloedd rheoli niโn fwy hygyrch i bawb. Bydd uwchraddio fel hyn yn helpu i ddiogelu'r theatr anhygoel yma ar gyfer y dyfodol.

Rydw i mor gyffrous am weld pawb yn รดl ar y safle gyda'i gilydd o dan yr un to. Bydd y cydweithreduโn fwy nag erioed i'n tรฎm ni. Dim ond ychydig gamau o'n gweithdy adeiladu ni fydd y gweithdy goleuo, yn hytrach nag ar safle arall. Bydd ein tรฎm gwisgoedd niโn gallu picio ar hyd y coridor iโr ystafelloedd ymarfer. Bydd pethau'n symud ymlaen gymaint yn gynt gan olygu y bydd gennym ni fwy fyth o amser i fod yn greadigol a chwarae. Rydyn ni wedi addasu mor dda i wahanol lefydd ond bydd cael gofod wediโi ddylunioโn benodol neu ei ailgynllunio ar gyfer yr hyn sydd arnom ni ei angen yn golygu bod posib creu elfennau mwy arloesol ar gyfer sioeau. Fe fydd fel cael teganau newydd a thลท newydd i gyd mewn un. Mae hefyd yn golygu y bydd ein cysylltiadau ni ag adrannau a rhannau eraill o'r adeilad gymaint yn gryfach. Mae ein swyddfa cynllun agored ni yng nghanol y dref wedi cryfhauโr cydweithredu ac mae symud hynny ymlaen iโr adeilad newydd yn gyffrous iawn.

Mae cydweithredu rhwng adrannau bob amser wedi bod yn rhywbeth rydw i wedi bod yn ymwneud ag o. Ond wrth symud iโr adeilad newydd aโr dyfodol rydw iโn gyffrous am weld hyn yn cynyddu fwy fyth. Roeddwn iโn ffodus iawn o gael athrawes mor gefnogol yn yr ysgol, felly mae'n wych darparu cefnogaeth ac anogaeth i'r rhai sydd eisiau ymuno รข'r diwydiant. Rydw i wrth fy modd yn cael myfyrwyr profiad gwaith a phrentisiaid yn yr adran gynhyrchu. Eleni rydyn ni hefyd wedi bod yn rhan o weithdai Bring The Drama y BBC sy'n arddangos yr hyn y gall goleuo a sain ei wneud mewn sioe. Mae pobl yn cael eu syfrdanu gan y broses ac mae'n fy ngwneud i mor falch ein bod niโn gallu gwneud y math yma o waith. Rydw i hefyd yn cymryd rhan yn y gweithdai rheoli llwyfan wythnosol ar gyfer ein pobl ifanc ni yn lleol. Rydyn niโn rhoi sylw i fanylion cefn llwyfan. Fe ddechreuodd y grลตp yn ystod covid cyn i ni adael yr adeilad, ac maeโn wych ei weld yn tyfu. Bydd yr adeilad newydd yn rhoi cymaint mwy o gyfle i hwn a llawer o grwpiau eraill. Dydw i ddim yn gallu aros i fynd รขโr grลตp i mewn iโr gweithdy golygfeydd i weld ein hartistiaid golygfeydd ni wrth eu gwaith. Mae'n ofod mor anhygoel ac unigryw. Y drefn ers talwm oedd nad oedd y diwydiant eisiau datgeluโr hud y tu รดl iโr llwyfan, dim ond dangos yr hud ar y llwyfan. Ond mae hynny wedi newid. Nawr mae pobl mor chwilfrydig am sut mae pethau'n digwydd, sut maen nhw'n cael eu gwneud a'r mecaneg y tu รดl i sut mae pethau'n gweithio. Dydw i ddim yn gallu aros i rannu hyn gyda mwy o bobl a thafluโr drysau ar agor ar fy nhรฎm anhygoel i.