Diolch i chi am ddod yn aelod Cyfeillion. Mae eich siwrnai’n dechrau yma.

Mae aelodaeth Cyfeillion yn gweithio orau pan fyddwch chi’n manteisio ar flaenoriaeth archebu ac yn defnyddio ein bargeinion tanysgrifio.

Pan fyddwch chi’n prynu tocynnau ar-lein gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi i'r un cyfrif â'ch aelodaeth - bydd hynny'n ein helpu ni i sicrhau eich bod yn cael yr holl ostyngiadau y mae gennych hawl iddynt – mae’r gostyngiadau’n dangos yn y fasged fel rheol cyn i chi dalu. Bydd angen i chi hefyd fewngofnodi i gael mynediad i sioeau gyda blaenoriaeth archebu.

Pan fydd ein hadeilad yn ailagor byddwn yn cysylltu â chi gyda manylion am sut i gael mynediad at eich gostyngiad diodydd.


Dyma beth rydym yn ei argymell i chi ei wneud nesaf:

#1 - Ychwanegwch ni at eich derbynyddion dibynadwy.

I wneud yn siŵr eich bod yn cael ein e-byst, rydym yn argymell ychwanegu Theatr Clwyd at eich rhestr o dderbynyddion dibynadwy (mae'n helpu i atal pethau rhag mynd i mewn i sbam yn ddamweiniol). Byddwn yn anfon e-bost atoch bob tro y bydd digwyddiadau newydd ar gael i'w harchebu fel blaenoriaeth yn ogystal ag ambell syrpreis hyfryd.

#2 - Gwiriwch eich rhif ffôn symudol ddwywaith.

Gwnewch yn siŵr hefyd fod gennym ni eich rhif ffôn symudol cywir (gallwch wirio drwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar y wefan yma yn y gornel dde uchaf).

Manteision i Aelodau:


  • Blaenoriaeth i archebu’r panto
  • Blaenoriaeth i archebu tymor
  • 5% oddi ar danysgrifiadau
  • Gostyngiad o 10% ar docynnau ffilm
  • Gostyngiad o 10% ar ddigwyddiadau dethol
  • Gostyngiad o 5% ar ddiodydd yn Theatr Clwyd