Pwrpas y dudalen hon yw helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am ein haelodaeth Cyfeillion.

Mae gennym ni hefyd Gwestiynau Cyffredin ar gyfer pobl oedd yn rhan oโ€™n Cynllun Aelodaeth Gwaddol cyn 2025 (sgroliwch i lawr).


Aelodaeth Cyfeillion

Ydw iโ€™n gallu cael cerdyn aelodaeth?

Mae cardiau aelodaeth ar gael yn ddigidol drwyโ€™r ap VisitOne ar eich ffรดn clyfar. Ar รดl i chi ddod yn aelod, byddwn yn anfon manylion atoch chi am sut i gael mynediad at eich cerdyn aelodaeth digidol.

Mae ein cardiau aelodaeth digidol ni'n ein helpu i leihauโ€™r defnydd o blastig a chefnogi arfer mwy cyfeillgar iโ€™r amgylchedd - newid bach syโ€™n gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae cardiau aelodaeth corfforol ar gael i bobl sydd heb fynediad at ffรดn clyfar. Mae cardiau aelodaeth corfforol ar gael i aelodau syโ€™n prynu ar daliad blynyddol โ€“ pan fyddwch chi wedi prynu eich aelodaeth dewch at ein desg groeso yn ystod eich ymweliad nesaf a bydd cerdyn yn cael ei roi i chi!

Sut mae cael fy ngostyngiad yn y sinema?

Mae eich gostyngiad ar gael ar ffilmiau โ€“ wrth archebu ar-lein mewngofnodwch iโ€™ch cyfrif, wedyn prynuโ€™r tocynnau fel arfer โ€“ bydd y gostyngiad yn cael ei roi yn y fasged.

Sut byddaf yn cael gwybod am flaenoriaeth archebu?

Byddwn yn anfon e-bost atoch chi bob tro y bydd gennym ddigwyddiad newydd gyda blaenoriaeth i archebu tocyn โ€“ gwnewch yn siลตr bod Theatr Clwyd ar eich rhestr o dderbynyddion dibynadwy ac os cewch chi unrhyw broblemau, ffoniwch y swyddfa docynnau.

Ai rhodd elusennol tuag at waith Theatr Clwyd yw hon, ac a ydych chi'n hawlio rhodd cymorth?

https://www.theatrclwyd.com/cy...A Na, nid rhodd yw aelodaeth Ffrindiau, yn hytrach mae'n rhoi blaenoriaeth i chi archebu ac yn eich helpu i arbed arian.

Os hoffech chi gyfrannu at Theatr Clwyd, byddem yn ddiolchgar iawn felly ewch i'n tudalen Ffyrdd o Gefnogi.

Pan fyddwch chi'n rhoi rhodd gallwch chi roi caniatรขd i ni hawlio rhodd cymorth ar eich cyfraniad. Am bob ยฃ10 a roddwch, gallwn hawlio ยฃ2.50 ychwanegol gan CThEF.

Aelodaeth Gwaddol

Beth am aelodau presennol (wedi prynu cyn 2025)?

Os gwnaethoch chi brynu aelodaeth cyn 2025 (ein cynllun aelodaeth gwaddol), bydd eich aelodaeth bresennol yn dod i ben ar 30 Ebrill 2025.

Yn 2024 fe wnaethom benderfynu ymestyn pob aelodaeth gwaddol am ddim hyd at ddiwedd mis Ebrill 2025 โ€“ mae hyn yn golygu bod pob aelodaeth gwaddol wedi rhedeg yn hirach naโ€™r tรขl gwreiddiol ac, yn bwysig iawn, wedi sicrhau bod yr aelodau hynnyโ€™n cael blaenoriaeth archebu ar gyfer ein sioeau hydref 2024, tymor agoriadol 2025 aโ€™n panto ar gyfer 2025/26.

Rydym hefyd wedi rhewi pris yr aelodaeth gwaddol ers 2019 โ€“ yn enwedig yng ngoleuni pandemig Covid aโ€™n cyfleusterau dros dro tra oedd y gwaith ailddatblyguโ€™n mynd rhagddo.

Yn olaf, bydd yr aelodau gwaddol yn cael eu gwahodd i brofi digwyddiadau yn ein hadeilad wediโ€™i ailddatblygu (theatrau, sinema a phopeth), teithiau cefn llwyfan a bydd cyfle iddynt fod ymhlith y cyntaf i roi cynnig ar ein bwyty newydd pan fydd yn agor.

Rydyn ni'n mawr obeithio y gallwch chi barhau i ymuno รข ni ar ein siwrnai gyda'n Haelodaeth Cyfeillion newydd.

A fydd fy aelodaeth gwaddol yn trosglwyddoโ€™n awtomatig i Aelodaeth Cyfeillion?

Ni fydd aelodaeth gwaddol yn trosglwyddo'n awtomatig iโ€™r Aelodaeth Cyfeillion newydd. Ar รดl i'ch aelodaeth gwaddol ddod i ben gallwch naill ai gofrestru eto ar-lein, neu ffoniwch y swyddfa docynnau (01352 344101) a bydd ein tรฎm yn gallu helpu.