The Audience

Gan Hijinx.
Maen nhw’n dod. Cadeiriau gyda nhw. Mae tyrfa’n ymgasglu. Maen nhw’n symud fel un, ac yna ddim o gwbl. Mae’r cadeiriau’n agor yn glep. Mae llwybrau’n croesi ei gilydd. Mae’r amhosibl yn dechrau dod i siâp. Mae’r hyn gychwynnodd fel rhywbeth cyfarwydd yn dod yn rhywbeth rhyfeddach, mwy chwareus, peryclach. Pwy maen nhw’n ei wylio? A phryd fydd cynulleidfa’n peidio gwylio a dechrau dod yn rhan o’r sioe? Gan Hijinx, mae The Audience yn archwiliad heriol, slapstic o agosatrwydd, amharu, a’r cydbwysedd bregus rhwng rheolaeth a chwalfa, gan adeiladu tuag at ddelwedd derfynol syfrdanol na ddylai allu sefyll…ond sy’n gallu rhywsut.
Cam 1 – ardal tarmac o flaen yr adeilad
5:30pm
30 munud
AD
Gall yr amseroedd amrywio / newid