Croeso i Perthyn...

Rydym yn cynnal gweithdai ar gyfer pob oedran ble’r cewch fod yn greadigol a gwneud theatr.

P'un a ydych chi eisiau dysgu am wneud theatr, bod yn greadigol neu gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd, mae ein gweithdai a'n grwpiau yn cynnig llawer o wahanol brofiadau - o actio a dawns, i gerddoriaeth a sgiliau cefn llwyfan - nid oes angen profiad!

0 Stars

Wedi cael sesiwn ddifyr dros ben. Diolch yn fawr am eich gwaith caled a'ch ymrwymiad
Cyfranogwr Gweithdy

0 Stars

I'm member of Company 65 and doing the weekly workshop has been a lifesaver for me, as I live on my own and have not been going out, it has been something to look forward to.
Carol Hubbert




Cysylltwch â Ni

Os oes gennych gwestiwn neu rydych angen cymorth, mae ein tîm yma i'ch cefnogi chi.

E-bost: tom.hayes@theatrclwyd.com

Mae ein oriau gwaith yn gyfyngedig ar hyn o bryd - mi fyddem yn ceisio ateb o fewn 36 awr.


Yn hygyrch i bawb

Mae ein grwpiau a'n gweithdai yn hygyrch i bawb. Os oes unrhyw beth yn eich atal rhag ymuno - gallai fod yn ariannol, trafnidiaeth neu efallai angen yr hyder i ymuno â ni am y tro cyntaf - yna cysylltwch â ni a byddwn yn gallu helpu naill ai gyda chyngor, bwrsariaethau neu weithdy am ddim. Mae ein manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon!


Tocynnau am Bris Is, Dosbarthiadau Meistr a mwy …

Mae ein hymarferyddion hynod fedrus ni’n darparu gweithdai deinamig ac ysbrydoledig, ac mae llawer o fanteision unigryw eraill i’w cael o ymuno â’n gweithdai ni...

Mae'r rhain yn cynnwys; cyfle i berfformio ar ein llwyfannau proffesiynol, cyfleoedd cast cymunedol, cylchlythyr tymhorol, gwahoddiadau i'n nosweithiau i westeion, tocynnau am bris is, a llawer mwy!


Workshop Gallery...