Lleoliad

Theatr Clwyd, Lôn Raikes, Yr Wyddgrug CH7 1YA

Cost

Y gost lawn yw £27 y mis

Dyddiadau

Mae ein gweithdai'n rhedeg yn wythnosol, a gellir eu gweld yma hefyd.

Taliad

Mae taliad am ein gweithdai ar sail dreigl fisol a thrwy daliad cerdyn.

Bwrsariaethau

Mae'n hanfodol i ni bod ein holl grwpiau ni’n hygyrch i bawb. Mae Theatr Clwyd yn cynnig amrywiaeth o fwrsarïau i gynorthwyo gyda chefnogaeth ariannol i alluogi cyfranogwyr i gael mynediad i’n gweithdai a’n gwersi cymunedol ni.

Nid yw ein bwrsarïau ni’n destun prawf modd ond maen nhw’n cael eu rhannu fesul achos. Os hoffech chi ddangos diddordeb mewn derbyn bwrsari, llenwch ein holiadur byr ni drwy Glicio Yma a byddwn yn adolygu eich cais.

Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost i box.office@theatrclwyd.com ac fe wnawn ni ein gorau glas i helpu.

Sesiwn Blasu

Rydym yn gallu cynnig sesiwn blasu am ddim cyn cofrestru'n llawn. I drefnu sesiwn blasu, anfonwch e-bost at box.office@theatrclwyd.com

Canslo

Gallwch ganslo'ch lle a'ch cynllun talu ar unrhyw adeg. Os hoffech ganslo'ch lle, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101 neu drwy e-bostio box.office@theatrclwyd.com

Cludiant

Ni ddylai cludiant fod yn rhwystr i allu mynychu ein gweithdai. Rydym yn gallu darparu cludiant mewn amgylchiadau arbennig, cyflwynwch eich ceisiadau i box.office@theatrclwyd.com

Diogelu

Mae ein polisi Diogelu a'n manylion cyswllt i'w gweld yma.