Lleoliadau Cynhyrchu
Mae’r Lleoliadau Cynhyrchu yn Stiwdio Clwyd yn darparu cyfleoedd dysgu byr yn y theatr, ar draws ystod eang o ddisgyblaethau ac adrannau yn Theatr Clwyd.
Bydd pob lleoliad dros 3 wythnos ar bwynt mewn cylch cynhyrchu pan fyddwn yn teimlo y byddai'n cael yr effaith fwyaf ystyrlon ar ddatblygiad yr hyfforddai a bod gan y tîm y gallu i gynnal a chefnogi datblygiad yr hyfforddai hwnnw.
Bydd y lleoliadau'n uniongyrchol gysylltiedig â chynyrchiadau Theatr Clwyd.
Disgwyliadau Cyffredinol
Byddai Stiwdio Clwyd yn disgwyl i bobl sy'n ymgymryd â lleoliadau mewn Cynhyrchu fodloni’r canlynol:
- Bod mewn rhyw fath o hyfforddiant ffurfiol sy'n gysylltiedig â maes y lleoliad ar hyn o bryd.
- Bod wedi dangos ymrwymiad i ddilyn / archwilio gyrfa yn y maes penodol neu fod yn hyfforddi ar hyn o bryd yn y maes penodol hwnnw.
- Bod yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo eu dysgu a'u datblygiad.
- Bod â chysylltiad â Chymru drwy fod wedi'u lleoli yng Nghymru, wedi'u geni yng Nghymru neu'n hyfforddi yng Nghymru ar hyn o bryd.
- Bod dros 18 oed ac yn gymwys yn gyfreithiol i weithio yn y DU.
- Bod ag agwedd ymholgar gref a gwybod beth maen nhw eisiau ei gael o’r lleoliad yn Theatr Clwyd ar hyn o bryd yn eu datblygiad.
Mae’r lleoliadau gwaith wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr coleg a phrifysgol. Sylwch mai cyfleoedd dysgu yw'r rhain, nid swyddi, ac maent yn ddi-dâl er bod cyllideb i dalu treuliau. Os yw'r adran neu'r maes arbenigedd sydd o ddiddordeb i chi yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd am leoliad cynhyrchu, edrychwch ar yr amlinelliad o'r rôl ar y dudalen hon. Bydd gan bob adran wahanol amseroedd pryd byddant yn derbyn ceisiadau. Nid yw'n bosibl derbyn ceisiadau ar hap ar hyn o bryd. Os nad yw'r adran sydd o ddiddordeb i chi wedi'i rhestru fel un sy'n derbyn ceisiadau, gwiriwch yn ôl yma'n fuan, gan fod diweddariadau rheolaidd yn cael eu gwneud i'r dudalen hon. Disgwylir i bob ymgeisydd llwyddiannus gwblhau ffurflen werthuso ar ôl cwblhau eu lleoliad er mwyn galluogi Theatr Clwyd i barhau i ddysgu a datblygu i wneud y lleoliadau hyn mor effeithiol â phosibl.
SYLWCH: Ni fydd y Lleoliadau Cynhyrchu hyn ar gael mewn Actio, Ysgrifennu, Cyfarwyddo, Castio. Yn Theatr Clwyd rydyn ni’n croesawu croestoriad ac yn annog ceisiadau gan artistiaid o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, artistiaid sy'n Ddu, yn Asiaidd neu o'r Mwyafrif Byd-eang neu sy'n nodi eu bod yn Fyddar, yn anabl neu’n niwroamrywiol.
Sut I Ygeisio
Dylai’r ceisiadau fod yn fynegiant byr o ddiddordeb a naill ai’n CV, bywgraffiad neu bortffolio. Yn y mynegiant o ddiddordeb, dywedwch wrthym sut mae'r lleoliad hwn yn cyd-fynd â’ch cynllun gyrfa. Peidiwch â phoeni os nad yw'r cynlluniau hyn wedi'u ffurfio'n llawn ond mae amlinelliad bras a nodi dyheadau yn syniad da. Mae croeso i chi gynnwys dolenni at dystiolaeth o waith os yw hyn yn bodoli ar-lein. Meddyliwch am sut mae beth rydych chi'n ei rannu’n berthnasol i'r hyn y byddwch chi'n ei wneud yn eich lleoliad yn ôl y wybodaeth isod am y lleoliad.
Yn eich cais, peidiwch â gor-ddweud eich lefel o brofiad. Os byddwn yn cynnig lleoliad i chi, bydd yn cyd-fynd â'r hyn rydym yn ei wybod am eich profiad a sut gallwn helpu i ddatblygu eich casgliad presennol o sgiliau.
Peidiwch â gwneud cais am fwy nag un lleoliad ar draws gwahanol adrannau ar yr un pryd – canolbwyntiwch ar ble rydych chi'n teimlo y byddai lleoliad yn cael yr effaith fwyaf ar eich datblygiad.
Gallwch hefyd gyflwyno mynegiant o ddiddordeb fel fideo byr (dim mwy na 3 munud) ynghyd â dolenni i'r ffeiliau yr hoffech chi i ni eu gweld fel enghraifft o'ch gwaith.
Dylid anfon ceisiadau at stiwdio@theatrclwyd.com
Current Opportunities
Lleoliad Gwisgoedd
Lleoliad tair wythnos yn ein Hadran Gwisgoedd eithriadol lwyddiannus a fydd yn rhoi cipolwg amhrisiadwy i chi ar y technegau a'r sgiliau sy’n cael eu defnyddio wrth greu ein gwaith.
Byddai Tîm Gwisgoedd Theatr Clwyd yn disgwyl i bobl sy'n ymgymryd â lleoliadau yn yr adran hon fodloni’r canlynol –
· Bod yn hyfforddi ar hyn o bryd ar gyfer gyrfa mewn creu gwisgoedd ar lefel gradd, neu gyfatebol.
- Bod â sgiliau gwnïo â llaw a pheiriant da iawn.
- Bod â rhywfaint o ddealltwriaeth ymarferol o greu gwisgoedd.
· Dangos diddordeb mawr mewn cynllunio gwisgoedd theatr a chynllunwyr theatr cyfredol.
Bydd y Tîm Gwisgoedd yn ymgymryd â / darparu'r canlynol yn ystod eich lleoliad –
· Byddwch yn treulio amser yn yr ystafell waith yn helpu'r gwneuthurwyr gwisgoedd i baratoi gwisgoedd ar gyfer sioe benodol, gyda chyfle i ymuno â ni mewn unrhyw ffitio, cyfarfodydd a rhediadau perthnasol.
- Yn dibynnu ar yr amseru, byddwch yn ein helpu i sefydlu ystafelloedd gwisgo a mannau newid cyflym ar gyfer yr ymarferion technegol, ac yn helpu'r adran i ymateb i nodiadau gwisgoedd yn ystod yr ymarferion technegol.
· Efallai y byddwch yn cael y cyfle i dreulio amser yng nghefn y llwyfan gyda'r gwisgwyr a’r criw cynnal a chadw gwisgoedd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 9fed Ionawr 2026
Cyfnod y lleoliad (tair wythnos o fewn yr amser hwn) – 2il Chwefror – 27ain Mawrth
Bwrsari ar gael i dalu treuliau lleoliad - £835.00
Lleoliad Goleuo
Lleoliad tair wythnos (nodwch y dyddiadau penodol a amlinellir isod) i ymuno â'n tîm goleuo eithriadol lwyddiannus a fydd yn rhoi cipolwg amhrisiadwy i chi ar y technegau a'r sgiliau sy’n cael eu defnyddio wrth greu ein gwaith.
Byddai'r Tîm Goleuo yn Theatr Clwyd yn disgwyl i bobl sy'n ymgymryd â lleoliadau yn yr adran hon fodloni’r canlynol –
· Bod â diddordeb brwd mewn goleuo penodol i'r theatr.
- Bod â rhywfaint o brofiad mewn amgylchedd ysgol neu hyfforddi er nad yw'n hanfodol.
· Bod yn barod i fod yn rhan o ychydig bach o waith ymarferol lle mae hynny'n addas.
Bydd y Tîm Goleuo’n ymgymryd â / darparu'r canlynol yn ystod eich lleoliad –
· Trosolwg o'r broses cyn-gynhyrchu.
- Cyfle i brofi prosesau ffitio o ran goleuo.
· Profi'r broses ymarfer technegol gyda'r rhaglennydd a'r trydanwr cynorthwyol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 2il Mawrth 2026
NODWCH Y DYDDIADAU PENODOL AR GYFER Y LLEOLIAD HWN ER MWYN SICRHAU EI FOD YN CAEL YR EFFAITH FWYAF AR DDATBLYGIAD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
DYDDIADAU’R LLEOLIAD – 7fed Ebrill – 25ain Ebrill 2026
Lleoliad tair wythnos gyda bwrsari ar gyfer treuliau hyd at £835