Mae Bridie yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Gwisgoedd yn yr Adran Gwisgoedd. Mae ei gwaith yn bennaf yn cynnwys paratoi gwisgoedd ar gyfer cynyrchiadau Theatr Clwyd ar y cyd â’r torrwyr, y goruchwylwyr a’r cynllunwyr gan ddefnyddio amrywiaeth eang o dechnegau, o greu gwisgoedd allan o ddeunyddiau’n amrywio o ledr trwm i’r chiffon ysgafnaf un i ludo, llosgi, lliwio, torri i lawr, hemio, trwsio ac addasu. Ymhlith ei dyletswyddau eraill mae cynnal a chadw gwisgoedd o dro i dro. Mae ganddi HND mewn Cynllunio Gwisgoedd Theatr o Goleg Technegol enwog Mabel Fletcher yn Lerpwl.


Mae’r syniadau ar gyfer ein gwisgoedd panto gwych yn dechrau yn ymennydd ein cynllunydd clyfar, Adrian. Wedyn mae’n creu cynllun ac, mewn cydweithrediad ag ef a’r Goruchwylydd Gwisgoedd, bydd y Torrwr yn penderfynu sut i droi’r llun, yn yr achos yma, llong, yn wisg y gall rhywun ei gwisgo, a symud, canu, dawnsio a chwarae’r sacsoffon ynddi!

Yma mae’r ffrog sylfaenol yn barod ar gyfer y ffitiad cyntaf. Mae’r ffrog yn cynnwys bodis sy’n ffitio’n dynn, a sgert gylchog o gotwm caerog wedi’i chryfhau gyda chylchoedd dur. I wneud siâp y llong, fe ddaeth Emma o hyd i ffelt cadarn iawn a oedd yn ddigon cryf i gadw ei siâp, ond yn ddigon ysgafn i’w wisgo. Cafodd corff y llong ei gryfhau gyda chylchoedd dur hefyd.

Roedd Adrian eisiau i’r llong fod â thyllau crynion gyda goleuadau bach y tu mewn. Ffitiwyd mwy na 100 o oleuadau LED tu mewn i’r sgert, pob un ar glustog bach o blastasot (haenau o sbwng dwysedd uchel) er mwyn eu cadw yn eu lle, yn gyfochrog â wyneb corff y llong. Gofynnwyd i Chris, ein pennaeth LX, helpu gyda’r broses yma, gan gysylltu’r goleuadau bach gyda cheblau i becyn batri bach a switsh wedi’u cuddio o dan y sgert.

Mae pob llong angen dec ac fe wnaed ein deciau blaen ac ôl o blastasot oherwydd eu nodweddion ysgafn a chadarn.

Un o nodweddion amlwg unrhyw wisg i ddêm mewn panto yw’r bronnau! Mae ein rhain ni wedi’u gwneud o beli troed sbwng sydd wedi’u gwastatau ryw ychydig ar un ochr fel eu bod yn ffitio’n gyfforddus yn erbyn y frest ac wedi’u gorchuddio gan ddefnydd arian yn secwins drosto.

Mae cylchoedd wedi’u gwneud o diwbiau sbwng ac wedi’u gorchuddio gan lycra yn dal y bronnau arian yn eu lle. Mae mwy o oleuadau LED yn cael eu pwytho o amgylch ymyl fewnol y cylchoedd.

Yma mae’r wisg wedi’i chwblhau bron, gyda llewys, bronnau, y sgert uchaf i guddio’r gwaith mewnol, y defnydd secwins a’r bredwaith yn marcio llinellau corff y llong. Os edrychwch chi’n fanwl iawn ar y llong arian, fe welwch chi’r goleuadau LED yn gwthio drwodd. Wedyn ychwanegwyd tair haen o ffril rownd y gwaelod i gynrychioli’r llong yn symud drwy’r tonnau. Mae’r ffrog yn cau yn y cefn gyda zip cryf a llawer o stydiau. Fel arfer ychydig iawn o amser sydd i roi’r dêm yn ei gwisg, felly mae’n rhaid sicrhau ei bod yn hawdd mynd i mewn iddi o’r dechrau un wrth ei chreu.

Cwblhawyd y wisg gyda bag cefn gyda 6 mast arno, a hwyliau’n hongian oddi arnyn nhw, yn gostwng wrth dynnu llinyn.


Wedi mwynhau hyn? Gwnewch rodd!

Helpwch ni i gefnogi Theatr Clwyd a'r gwaith rydym yn ei wneud!