Prosiect Cynefin
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Creative-Engagement/2020/Cynefin/121873/Project-Cynefin_adb220520a2640cd9f81da2040cf251f.jpg)
Pecyn Gweithgareddau Creadigol
Rydyn ni yn Theatr Clwyd, yn wirioneddol drist na allwn ni eich croesawu chi i’n hadeilad i gymryd rhan ym mhrosiect Cynefin fel roedden ni wedi bwriadu ei wneud yr haf hwn. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n dal yn dynn i'r gred y byddwn ni’n cael cyfle i wneud rhywbeth creadigol gyda’n gilydd yn fuan.
Yn y cyfamser, cadwch yn saff, cadwch mewn cysylltiad, a chofiwch eich bod yn rhan o deulu Theatr Clwyd o hyd. Welwn ni chi gyd yn fuan.