Yma yn Theatr Clwyd, rydyn ni’n colli’r pleser o weld gweithwyr llawrydd yn taro i mewn i’w gilydd ar y grisiau, yn yr ystafell werdd, yn y bar ... y cyfarfyddiadau ar hap yna sy’n dechrau yn ein hadeilad ni pan mae dau berson creadigol yn dechrau siarad ac mae rhywbeth jysd yn clicio.

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n treulio mwy o amser ar wahân nag erioed o’r blaen ond efallai bod gan rai ohonom ni ychydig mwy o amser rhydd, cysylltiad wifi a dyhead i gysylltu ag eraill sy’n gweithio yn y diwydiant gwych yma. Felly efallai bod nawr yn amser da i ddweud ‘helo’ wrth rywun newydd.

Mae Cyfarfyddiad Ar Hap- Ar Draws Ffiniauyn gynllun gennym ni i helpu i’r ‘helo’ yma ddigwydd. Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag gweithiwr llawrydd arall nad ydych chi wedi’i gyfarfod erioed o’r blaen ar gyfer cyfarfyddiad ar-lein, dim disgwyliadau, dim gofynion, dim ond chi ac un unigolyn creadigol arall.

Efallai y byddwch yn cyfarfod rhywun i gydweithio ag ef neu hi yn y dyfodol, yn meddwl am syniad newydd ar gyfer prosiect neu ddim ond cael sgwrs braf. Byddwch yn ffurfio cysylltiad newydd yn sicr – neu, os byddwch yn digwydd cael eich paru gyda rhywun rydych chi’n ei adnabod, mae’n gyfle i ailgysylltu. Mae hefyd yn ffordd wych i ni yn Theatr Clwyd glywed gan fwy o artistiaid lleol, Cymreig neu sy’n byw yng Nghymru yn ystod y cyfnod ynysig yma.

Ac wrth ddweud ‘creadigol’, rydyn ni’n golygu unrhyw a phob gweithiwr llawrydd sy’n gweithio yn ein byd diwylliannol gwych ni, ar y llwyfan neu oddi arno, mewn theatr, oriel, llyfrgell neu syrcas, boed wedi’i labelu’n draddodiadol fel ‘creadigol’ ai peidio (mae rhai rheolwyr llwyfan rydyn ni wedi bod yn gweithio â hwy’n honni nad ydyn nhw’n greadigol ond rydyn ni’n meddwl mai nhw yw rhai o’r bobl fwyaf greadigol rydyn ni’n eu hadnabod).

Wedyn byddwn yn eich cyflwyno chi ar e-bost, gan rannu’r paragraff byr rydych chi wedi ei anfon atom ni.

Yn benodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych chi mewn gwlad wahanol fel ein bod yn gallu defnyddio’r foment hon i estyn ar draws ffiniau mewn ffordd na fyddai’n bosib efallai mewn cyfnod arall. Byddem wrth ein bodd yn creu gwe pry cop o weithwyr llawrydd yn estyn o Gymru ar draws y byd.

Yn benodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych chi mewn gwlad wahanol fel ein bod yn gallu defnyddio’r foment hon i estyn ar draws ffiniau mewn ffordd na fyddai’n bosib efallai mewn cyfnod arall. Byddem wrth ein bodd yn creu gwe pry cop o weithwyr llawrydd yn estyn o Gymru ar draws y byd.

Sylwer bod rhaid i chi fod yn 18+ oed i gymryd rhan.