The Great Gatsby - Rhaglen Ddigidol

Y Stori

1922. Yng Ngwladwriaeth Efrog Newydd. Jazz, glam a speakeasies.

Mae Nick Carraway yn rhentu tŷ bach wrth ymyl plasty anhygoel Jay Gatsby y miliynydd dirgel. Mae bywyd ar y dechrau yn arferol iawn i Nick, mae’n ymweld â’i gyfnither Daisy a’i gŵr Tom ac yn dechrau perthynas â dynes ifanc ddeniadol o’r enw Jordan. Wrth iddo ddarganfod bod Tom mewn perthynas gyda dynes arall, mae’n derbyn gwahoddiad annisgwyl i un o bartïon enwog ei gymydog Jay Gatsby sydd yn troi ei fywyd ai ben i lawr.

Yn llawenydd y parti, mae Nick yn cyfarfod â’i westeiwr, Jay Gatsby, ac mae’n ymddangos bod ganddynt lawer yn gyffredin – roedd y ddau yn gwasanaethu yn yr un adran yn ystod y Rhyfel - a chafodd Gatsby, trwy ddamwain a hap, gyfarfod â Daisy a disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi. Mae Nick yn cael ei berswadio i drefnu aduniad rhwng Gatsby a Daisy sydd yn cychwyn perthynas cariadus nwydus. Ond gyda chelwydd ac amheuaeth yn datblygu o fewn y grŵp o ffrindiau, mae’n annhebygol iawn bydd diweddglo hapus. Pwy fydd yn sefyll ar ddiwedd y dydd, a phwy fydd ar ei golled, a beth fydd yn dod o Gatsby ei hun

Y Sioe

Mae’r sioe yn gyfranogol, sy’n golygu o’r foment y byddwch chi’n camu i mewn i Blasty Gatsby y byddwch chi’n teimlo eich bod chi wedi cael eich cludo’n ôl i ferw’r 1920au.

Efallai y byddwch chi’n dechrau gyda choctel wrth y bar cyn i’n cast ni eich croesawu chi i fyd F. Scott Fitzgerald, The Great Gatsby.

Wedyn, mae i fyny i chi. Efallai y byddwch chi’n helpu Gatsby ei hun i benderfynu pa siwt i’w gwisgo ar gyfer y parti, neu hyd yn oed yn dysgu dawnsio gyda Daisy a Jordan.

‘Fyddwch chi ddim yn cael eich gorfodi i wneud unrhyw beth ac os yw’n well gennych chi wylio o’r llinell ochr, ‘fydd dim ots gan neb.


Cast


Tîm Creadigol

Cyd-grëwyd yn wreiddiol gan Michael Lambourne, Phil Grainger, Hannah Davies, Amie Burns Walker, Holly Beasley-Garrigan, Oliver Tilney, Thomas Maller


Gyda diolch i

  • The Dolphin Hotel
  • Moira Stanley, Rhodd y piano
  • Eloise Hawes & Leah Foulkes, Ar Leoliad o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Penderyn Distillery
  • Ashley Tilbury, Rheolwr Llwyfan ar Leoliad
  • Royal Exchange Theatre, Manchester, Liverpool Playhouse, Birmingham Repertory Theatre
  • Tîm Theatr Clwyd
  • Diolch i’n holl gefnogwyr ni.