Sleeping Beauty

See dates and times  

Dim ond cusan cariad pur fedr dorri’r felltith hon
Mewn antur pantomeim cyffrous fydd yn binacl blwyddyn gron!

Cewch ganu a dawnsio o’ch sedd yn y babell fawr a chlyd,
I gyfeiliant gwledd roc a rôl Nadoligaidd orau’r byd.

Peidiwch ag oedi, ystyried nac aros, dewch yn llu
Prynwch eich tocynnau nawr, i osgoi felan y gaeaf du!

Mae ein panto roc a rôl arobryn yn ôl – yn fwy ac yn fwy trawiadol nag erioed!


Wedi’i ysgrifennu gan Christian Patterson (Robin Hood, Beauty & The Beast) o Gymru, ymunwch â ni am y caneuon roc, pop a soul gorau, ffrogiau ffrils, setiau syfrdanol a’r pypedau panto anarchaidd.

Am un flwyddyn yn unig bydd ein sioe mewn pabell syrcas enfawr, wedi’i gwresogi drws nesaf i’r theatr
. Peidiwch â cholli panto teuluol y degawd!


Theatr Clwyd


Cast a Chreadigol