Tîm Theatr Clwyd yn arwain y gwaith ailddatblygu

Liam Evans-Ford - Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Swyddog Gweithredol | Ymunodd Liam â Theatr Clwyd yn 2016 ar ôl cyfnod yn Gynhyrchydd yn y Theatre Royal yng Nghaerefrog a’r Crucible yn Sheffield. O dan ei arweiniad mae Theatr Clwyd wedi cynyddu ei throsiant o £2m. Mae wedi symud oddi wrth berchnogaeth Awdurdod Lleol i fod yn ymddiriedolaeth elusennol, gan sicrhau cytundeb cyllido tymor hir gyda Chyngor Sir y Fflint. Mae wedi sicrhau mwy na £40m o arian cyhoeddus tuag at y gwaith ailddatblygu cyfalaf ac wedi cynyddu pwysigrwydd gwaith y theatr yn y gymuned. Liam yw Cadeirydd Creu Cymru, y corff sy’n cynrychioli pob theatr a chwmni cynhyrchu yng Nghymru, ac mae’n aelod o nifer o baneli cynghori eraill gan gynnwys y Bwrdd Cynghori Busnes ar gyfer bargen twf Gogledd Cymru. Crëwr theatr yw Liam – ar ôl bod yn actor, cyfarwyddwr ymladd a chynhyrchydd llwyddiannus.

Kate Wasserberg - Cyfarwyddwr Artistig | Bydd Kate yn ymuno â’r tîm ym mis Hydref 2023, gan olynu Tamara Harvey fel Cyfarwyddwr Artistig a dod y chweched person i ddal y swydd yn Theatr Clwyd. Sefydlodd Kate yr adran ysgrifennu newydd yn Theatr Finborough, gan gynnig comisiynau cyntaf i awduron gan gynnwys James Graham. Symudodd wedyn i Gymru i ddechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyswllt ac arweinydd yr adran lenyddol yn Theatr Clwyd, cyn symud i Gaerdydd a sefydlu The Other Room, sy’n dal i weithredu heddiw fel yr unig leoliad fringe yn y brifddinas. Wedyn dechreuodd yn ei swydd fel Cydgyfarwyddwr Artistig Out of Joint cyn ailfodelu'r cwmni fel Stockroom.

Andrew Roberts – Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyllid a Phobl | Mae gan Andrew gefndir ym maes cyfrifeg ac archwilio cyn symud i swydd rheoli ac uwch arweinyddiaeth. Bu’n rhedeg Canolfan Tennis Wrecsam cyn ymuno â Theatr Clwyd yn 2016. Yn ystod ei gyfnod yma, mae wedi ymgymryd â chymwysterau AD lefel uchel, wedi goruchwylio ad-drefnu llawn ar y cwmni, wedi cyflawni trosglwyddo o systemau cyllid ac AD awdurdodau lleol i systemau newydd addas i’r diben, ac wedi arwain ar y gwaith ailddatblygu cyfalaf manwl a’r cynlluniau cysondeb busnes fel adleoli i swyddfeydd newydd, ac adeiladu cyfleusterau cyhoeddus a pherfformio dros dro. Mae Andrew wedi bod yn wneuthurwr theatr brwd erioed ac wedi ymwneud â theatr ieuenctid leol a chwmnïau drama amatur.

Zoe Crick-Tucker – Cyfarwyddwr yr Ymgyrch Gyfalaf | Ymunodd Zoe â Theatr Clwyd yn 2020 o theatr yr Old Vic ym Mryste lle bu’n Gyfarwyddwr Datblygu. Mae Zoe yn godwr arian uchel ei pharch ac arweiniodd ar yr ymgyrchoedd codi arian cyfalaf yn yr Old Vic ym Mryste a gyda Rambert Dance. Cyn y swyddi yma bu'n gweithio gyda’r RSC. Ers ymuno â Chlwyd, mae hi wedi ymgorffori’r holl arferion codi arian mewn tîm datblygu sydd wedi’i ffurfio o’r newydd sydd, hyd yma, wedi codi mwy na £4m mewn cyllid preifat ar gyfer y rhaglen gyfalaf, ac wedi sicrhau perthnasoedd cyllido newydd gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau mawr gan gynnwys Esme Fairburn, Wolfson a Garfield Weston.

Mae’r penseiri a’r tîm technegol yn cynnwys:

Y penseiri yw Haworth Tompkins (sy’n cael ei ystyried fel y tîm penseiri theatr mwyaf blaenllaw yn y DU a chwmni blaenllaw yn y defnydd o ddylunio adfywiol; mae eu theatrau yn cynnwys The Royal Court, The Young Vic, yr Everyman yn Lerpwl, The National Theatre, Canolfan Gelfyddydau Battersea a’r Old Vic ym Mryste);

Y prif gontractwyr yw Gilbert Ash (contractwr adeiladu a ffitio arobryn yn y DU. Mae eu gwaith ailddatblygu ar adeiladau diwylliannol yn cynnwys yr Old Vic ym Mryste, y National Portrait Gallery, yr Everyman yn Lerpwl a Chanolfan Gelfyddydau Battersea)

Y dylunwyr M&E yw Skelly & Couch (cwmni arobryn o beirianwyr amgylchedd a gwasanaethau adeiladu; mae ein hymgynghorydd arweiniol wedi gweithio ar brosiectau fel y Chichester Festival Theatre sy’n adeilad rhestredig Gradd II, a Theatr Drury Lane sy’n adeilad rhestredig Gradd I);

Y dylunwyr technegol yw Charcoal Blue (sy’n cael eu cydnabod yn eang fel gwasanaeth Ymgynghoriaeth Theatr, Acwstig a Digidol integredig mwyaf blaenllaw y byd; mae eu prosiectau’n cynnwys cyngor technegol i’r Young Vic, The National Theatre, y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain, yr Old Vic ym Mryste a The Kiln Theatre);

Y peirianwyr strwythurol yw Betts Associates (tîm o beirianwyr strwythurol o safon byd sydd wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru; roedd ein hymgynghorydd arweiniol yn rhan o’r gwaith o gyflwyno Theatr Clwyd yn y 1970au);

Y Syrfëwyr Meintiau yw Gardiner & Theobald (mae ein hymgynghorydd, Gary Faulkner, yn un o’r syrfëwyr meintiau mwyaf profiadol yn y diwydiant theatr ac mae wedi gweithio ar ddatblygiadau diweddar yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain, yr Old Vic ym Mryste, yr Everyman yn Lerpwl a The Factory ym Manceinion);

Mae rheolaeth y prosiect yn cael ei ddarparu gan Jack Tilbury, Cyfarwyddwr Plann Ltd, sydd wedi arwain prosiectau ar gyfer The National Theatre, The Old Vic, yr Old Vic ym Mryste, Bush Theatre, London Theatre Company (Bridge Theatre), Neuadd y Dref Shoreditch, Mamma Mia! The Party, Sadler’s Wells, Punchdrunk a The Abbey Theatre yn Nulyn.