Mirain Fflur
Actor o Wynedd yw Mirain Fflur (hi/ei). Mae wedi cydweithio â Frân Wen, National Theatre Wales, Sky Arts, Theatr Cymru, Bara Caws, Theatr Clwyd a Dundee Rep i enwi dim ond rhai. Gan ychwanegu at ei rhestr o sgiliau amrywiol, mae Mirain yn awdur, yn artist gweledol ac yn wneuthurwr theatr, ar ôl graddio o Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig gydag MA mewn Actio a Dyfeisio. Atgyfnerthodd y rhaglen ei galluoedd fel perfformiwr corfforol a gwneuthurwr arbrofol, gan ffurfio ei hestheteg weledol atgofus a dod â natur daer a chignoeth i'w gwaith ysgrifennu. A hithau wedi astudio’r Celfyddydau Gweledol i ddechrau yng Ngholeg Celf Caeredin, mae hi’n ymarferol ym mhob agwedd ar waith cynhyrchu, gan greu ei byd yn gysyniadol ac yn gorfforol o’r gwisgoedd i’r ddramayddiaeth. Ar hyn o bryd mae hi'n datblygu ei drama lawn gyntaf, Slaughtered, gyda chefnogaeth cyfnod preswyl Tyfu Theatr Clwyd. Mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer cyfresi plant sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, sef Deian a Loli a Rownd a Rownd. Y tu hwnt i'w gwaith fel artist unigol, mae Mirain yn teimlo ysgogiad i greu theatr drochol a hygyrch, ac i greu mannau o iachâd a dysg sy'n rhoi lle i’r llais lleia yn y stafell.