Gruffydd Ywain
Mae Gruff yn ymarferydd creadigol aml-gyfrwng sy’n gweithio ym maes drama a dylunio. Yn wreiddiol o Ddolgellau, mae bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol yn y BBC yng Nghaerdydd. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 gyda’i ddrama gyntaf "Nyth" ac mae wedi mynd yn ei flaen i ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm a Rownd a Rownd. Perfformiwyd ei ddrama fer "Maes o Law" fel rhan o sioe Ha/Ha mewn cydweithrediad rhwng Theatr Cymru a Theatr Clwyd yn Eisteddfod Pontypridd 2024. Mae wedi cael ei ddewis ar gyfer rhaglen datblygu awduron newydd Rondo ac mae'n rhan o'r garfan o awduron sydd yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru 2025 gan Llenyddiaeth Cymru ble mae'n datblygu ei nofel gyntaf. Mae wedi gweithio ar brosiectau creadigol diweddar gyda Eden, Sŵnami, Cymru Fyw, Gwasg y Bwthyn, Barddas a'r Lolfa. Mae hefyd yn aelod o Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi Cyngor Llyfrau Cymru.