Calonnau Clwyd
Calon Theatr Clwyd?
Drwy rodd fisol reolaidd neu ymrwymiad blynyddol, byddwch yn dysgu mwy am ein gwaith ni ar y llwyfan ac oddi arno. Byddwn yn mynd â chi y tu ôl i'r llenni yn ogystal â chynnig cyfle i chi ddod yn nes at Theatr Clwyd drwy ddigwyddiadau a phrofiadau pwrpasol. Byddwn yn dangos i chi'r gwahaniaeth mae eich rhodd yn ei wneud.
Gyda'ch cefnogaeth chi…
- Gallwn gadw calon Theatr Clwyd yn curo, gan ddod â bywyd i'r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ein cymunedau ni.
- Gallwn barhau i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda cholled cof ac,, yn hollbwysig, eu gofalwyr nhw hefyd.
- Gallwn ddarparu llefydd fforddiadwy yn ein gweithdai ni i bob person ifanc.
- Gallwn ddod â'r celfyddydau i bobl a fyddai fel arall yn llithro trwy'r bylchau fel pobl ifanc sydd ddim yn mynd i'r ysgol mwyach.

Yn dibynnu ar eich lefel o gefnogaeth, byddwn yn teilwra ein diolch.

£5
- Gwahoddiadau noson i westeion - 2 docyn i berfformiad y noson i westeion, gyda derbyniad diodydd a rhaglen.
- Cylchlythyr drwy eich drws - Cylchlythyr blynyddol yn llawn newyddion Theatr Clwyd o'r llwyfan ac oddi arno.
£10
Popeth uchod a hefyd:
|
£25
Popeth uchod a hefyd:
- Sesiynau Holi ac Ateb – Cyfle i gyfarfod â'r bobl greadigol y tu ôl i'r sioeau.
- Taith cefn llwyfan - Gweld yr hud y tu ôl i'r sioeau: gwisgoedd, adeiladu setiau, celf golygfaol, goleuo a sain.
£50
Popeth uchod a hefyd:
- Pas cefn llwyfan unigryw - Gweld ein pobl greadigol wrth eu gwaith yn yr ystafell ymarfer a hefyd diodydd gyda'r cyfarwyddwr.
- Mynediad at docynnau munud olaf - Cael tocynnau ar gyfer sioeau sydd wedi gwerthu allan*
*Yn amodol ar argaeledd
Cofrestrwch heddiw!
Rhodd o £25
Mae £25 y mis, cost pryd ysgafn, yn golygu y gallwn ni ddarparu cinio iach i berson ifanc sydd wedi’i gyfeirio at ein sesiynau creadigol ni dros yr haf.
Membership
Rhodd o £5
Mae £5 y mis, sef cost pryd bwyd bargen, yn golygu y gallwn ni ddarparu pecyn gofal personol i berson ifanc sy'n wynebu anawsterau sy'n mynychu ein sesiynau creadigol ni.
Rhodd o £10
Mae £10 y mis, sy'n cyfateb i bris tri choffi, yn golygu y gallwn ni gyflwyno celfyddydau creadigol, crefftau a cherddoriaeth mewn gweithdai cadair freichiau i greu atgofion newydd.
Rhodd o £50
Mae £50 y mis, sef cost dau docyn i'r theatr, yn golygu y gallwn ni ddarparu dosbarthiadau meistr mewn pypedwaith, ymladd llwyfan a mwy i sbarduno ysbrydoliaeth yn ein cymunedau ni.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at lily.peers-dent@theatrclwyd.com neu ffoniwch 01352 609143.
Telerau ac amodau
Mae pob lefel rhodd yn cynnwys gwerth budd sy'n manylu ar y gost wirioneddol i Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd. Mae posib prynu'r buddion yma ar wahân. Mae unrhyw swm sy’n cael ei roi uwchlaw'r gwerth budd yma’n cael ei roi fel rhodd i gefnogi Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd (rhif elusen 1189857) ac mae'n gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd. I drafod prynu buddion ar wahân anfonwch e-bost at Janine.dwan@theatrclwyd.com.