Cyfarwyddwyr o Gymru yn arwain ar gynyrchiadau Theatr Clwyd wrth i Dymor y Gwanwyn gael ei gyhoeddi.
See dates and times 25 Hyd 2023
News Story
Mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi ei harlwy ar gyfer Tymor y Gwanwyn heddiw. Gyda'r ailddatblygiad cyfalaf yn cymryd camau breision ymlaen, mae sioeau'n parhau i gael eu cynnal yn Theatr Mix. Bydd Theatr Clwyd hefyd yn mynd รข sioeau a gweithgareddau ar draws y sir ac yn teithio Cymru. Bydd y lleoliad yn cynhyrchu tri chynhyrchiad yn ystod y tymor nodedig yma, Kill Thy Neighbour, Constellations and Rope, dan arweiniad tri chyfarwyddwr o Gymru.

Comedi dywyll am gariad, marwolaeth a chyfrinachau cudd yw Kill Thy Neighbour (2-20 Ebr). Mae Caryl a Meirion yn brwydro yn erbyn y pwerau oโu cwmpas ac yng ngyddfau ei gilydd yn eu pentref cerdyn post Cymreig perffaith. Mae eu cymuned yn diflannu ac mae straeon tywyll yn cuddio y tu รดl iโr ffasรขd bocs siocled. Wediโi hysgrifennu gan Lucie Lovatt o Wrecsam, dyma yw ei drama lawn gyntaf. Maeโr sioe hon yn gyd-gynhyrchiad gyda Theatr y Torch, wediโi chyfarwyddo gan eu Cyfarwyddwr Artistig arobryn, Chelsey Gillard.
0 Stars
Mae Kill Thy Neighbour yn ddoniol ac yn arswydus - fy hoff gyfuniad i. Maeโn siarad am faterion syโn effeithioโn uniongyrchol ar lawer o gymunedau yng Nghymru ac mae ganddi gymaint o galon. Rydw iโn angerddol am ysgrifennu newydd a lleisiau newydd ar ein llwyfannau ni, dyma ddrama gyntaf Lucie ac mae hi wediโi saernรฏoโn hyfryd ac yn ddifyr. Mae y Torch wrth ei bodd yn gweithio ar y cyd รข Theatr Clwyd i ddod รขโr ddrama ymaโn fyw ac rydw iโn edrych ymlaen yn fawr at ei rhannu gyda chynulleidfaoedd yn yr Wyddgrug ac yn Aberdaugleddau.Dywedodd Chelsey Gillard.

Bydd Constellations (10 Mai-25 Mai), sioe hynod lwyddiannus yn rhyngwladol Nick Payne sydd wedi ennill sawl gwobr, yn cael ei hailddychmygu ar gyfer Cymru fodern gan y Cyfarwyddwr Cyswllt Daniel Lloyd. Mae gwenynwr a ffisegydd yn cyfarfod mewn barbeciw. Mae hi'n meddwl am fecaneg cwantwm, theori llinynnau ac amryfalau. Mae o'n meddwl am ei wenyn, ei fรชl ac ecoleg. Mae amser a marwolaeth yn eu herbyn. Oes posib iddyn nhw syrthio mewn cariad byth?
Cyflwynir Constellations mewn dau chwaer gynhyrchiad โ un yn y Saesneg gwreiddiol aโr llall yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg, wediโi chyfieithu gan Gwawr Loader o dan y teitl Cytserau (7-8 Mehefin). Fel rhaglenni teledu poblogaidd y Gwyll ac Un Bore Mercher, bydd y ddau fersiwn yn cael eu perfformio gan yr un cast.
0 Stars
Rydw iโn falch iawn o fod yn cyfarwyddo Constellations/ Cytserau. Maeโr stori oesol yn gofyn cwestiynau anferth am fodolaeth dyn ac yn cael ei hadrodd am yn รดl, ymlaen ac iโr ochr gyda strwythur disglair o wreiddiol. Rydyn niโn dilyn ein darpar gariadon ar draws llawer o fydysawdau amgen, lle mae eu dewisiadauโn arwain at rai mรขn ganlyniadau ond weithiau, canlyniadau seismig. Fel bod dynol dwyieithog sy'n bodoli o fewn dau ddiwylliant, rydw i'n aml yn teimlo fy mod iโn pontio sawl bydysawd! Cymraeg a Saesneg โ English and Welshโฆ Mae cyflwynoโr ddrama yma mewn dwy iaith yn gyfle i ni archwilioโr teimlad hwnnwโn ddyfnach mewn cynhyrchiad i gynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg eu hiaith.Dywedodd Daniel Lloyd.

Mae Rope(29 Mehefin-20 Gorffennaf) gan Patick Hamilton (Gaslight, Hangover Square) yn gomedi dywyll, iasol sydd wedi'i hysbrydoli gan wir drosedd. Mae dau ddyn ifanc di-ofn, trahaus ac wedi diflasu wedi lladd cydfyfyriwr ac wedi cuddio ei gorff mewn cist. Yn y dirgelwch llofruddiaeth yma syโn cael ei gyflwyno i'r gwrthwyneb, mae parti ar gyfer teulu diniwed y dioddefwr yn datblygu mewn ffyrdd na allaiโr llofruddwyr ifanc fod fyth wedi'i ragweld hyd yn oed. Cyfarwyddwyd gan Gyfarwyddwr Artistig Cyswllt Theatr Clwyd, Francesca Goodridge (A Pretty Shitty Love).
0 Stars
Pan wnes i ddarllen Rope am y tro cyntaf, roeddwn iโn gofyn sut cafodd y stori yma am haerllugrwydd y dosbarth syโn rheoli a dynion yn dianc rhag cael eu cosbi ei hysgrifennu yn y 1920au, pan mae'n siarad mor glir gyda'r 2020au. Wedi'i hysgrifennu ganrif cyn yr obsesiwn heddiw รข phodlediadau, mae Rope yn parhau i fod yn sioe gyffro syfrdanol - heb unrhyw seibiau. Maeโr ddramaโn mynd รข chynulleidfaoedd ar noson wyllt o ansicrwydd a syndod, gyda ffocws di-baid ar un gofod, un drosedd, a chelu haerllug gan ddynion sydd wedi meddwi ar feddwl eu bod yn well na phawb arall.Dywedodd Francesca Goodridge :
Bydd hwyl iโr teulu yn mynd ar daith y tymor hwn i Gaffi Isa hyfryd Mynydd Isa. Hwyl am bris isel iโr teulu yn cynnwys perfformiad natur rhyngweithiol Cymraeg Ble Maeโr Dail Yn Hedfan (9 Maw); Shakespeare i'r teulu cyfan mewn perfformiad dwbl o Macbeth a Romeo & Juliet (6 Ebr); cyfle i greu rhywbeth o ddim ond darn o bapur yn y sioe ryngweithiol Club Origami (4 Mai) ac yn olaf sioe gerdd i'r teulu cyfan yn Jack! (11 Mai).
Ni fydd pobl syโn hoff o ddirgelwch llofruddiaeth eisiau colli Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit (12-16 Mawrth). Gan ddefnyddio straeon ac awgrymiadauโr gynulleidfa, gwyliwch y cwmni Pinch Punch yn creu whodunnit unigryw, un-o-fath, na chaiff ei ailadrodd byth. Os ydych chi'n hoffi comedi neu ddirgelion llofruddiaeth, yna dyma'r sioe i chi!
Maeโr sioe gerdd oesol Oh What A Lovely War (23-27 Ebrill) yn gipolwg doniol, ond torcalonnus, ar fywyd iโr rhai syโn cael eu dal yng nghanol gwrthdaro. Maeโn dod รข ffolineb, ffars, a thrasiediโr Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw.
Peidiwch รข cholliโr nosweithiau hyfryd yma o adrodd straeon, dim ond yn Theatr Clwyd am un neu ddau o berfformiadau. Mae Medusa yn cyflwyno ei fersiwn hi oโr Rhyfel Trojan yn Beautiful Evil Things (7-8 Mawrth), darn corfforol egni uchel yn llawn ffraethineb. Bydd Joe Sellman-Leava yn cyflwyno Fanboy syโn llawn hiraeth (15 Gorff), sioe am ei berthynas caru a chasรกu gydaโr diwylliant pop. Does dim posib cael haf heb Shakespeare, felly ymunwch รข 440 Theatre am ddwy gomedi haf mewn dim ond 40 munud yr un, yn cael eu perfformio gan 4 actor yn A Midsummer Nightโs Dream + Twelfth Night (14 Gorff). Camwch i fyd miniog o graff bwyd, teulu a thlodi modern yn How To Feed a Town (23 Gorff) drama wediโi dylanwaduโn uniongyrchol a thrigolion Sir y Fflint arni.
Ni fydd ein cynulleidfaoedd Cymraeg eisiau colli Ie Ie Ie (6 Maw), addasiad newydd gan Theatr Genedlaethol Cymru am brofiadau byw pobl ifanc syโn codi cwestiynau hanfodol am berthnasoedd iach, chwant, a chydsyniad. Maeโr sioe yn cael ei chyfarwyddo gan Juliette Manon sydd ar Gynllun Cyfarwyddwyr Dan Hyfforddiant Ymddiriedolaeth Carne Theatr Clwyd.
Bydd y bardd arobryn Lemn Sissay yn ymweld am un noson yn unig (9 Mawrth), ac dawโr bardd Inua Ellams รขโi sioe newydd Search Party yma (8 Gorff), sioe fyrfyfyr yn seiliedig ar awgrymiadauโr gynulleidfa.
Bydd cerddoriaeth glasurol anhygoel y tymor yma gan gynnwys y Skampa Quartet (19 Tach), Charlotte Spruit (21 Mai), y feiolinydd, aโr Adelphi Quartet (4 Gorffennaf) o Salzburg.
Maeโr rapiwr o ogledd Cymru, Sage Todz (20 Mai) yn camu i lwyfan Theatr Clwyd ar รดl digwyddiad hynod lwyddiannus gyda Grandmaster Flash yn Neuadd William Aston.
Ac yn olaf, mae comedi i bawb yn Theatr Clwyd gydaโr Clwb Comedi misol (3 Maw/14 Ebr/15 Mai/ 3 Meh/ 7 Gorff). Gyda thocynnauโn dechrau am ddim ond ยฃ10, peidiwch รข cholliโr cyfle.
Daw Ria Lina รขโi sioe am ysgariad a chanlyn yn ei sioe Riawakening (27 Chwe). Hefyd daw dwy sioe o Gaeredin gan ddigrifwyr mwyaf cyffrous Cymru Priya Hall a Leila Navabi i Theatr Mix (7 Ebr).
A chofiwch bod mwy fyth ar gael draw yn Neuadd William Aston. Gyda chomedรฏwyr o fri fel Stewart Lee (4 Chwefror), Frankie Boyle (3 Mawrth), Tom Davis (5 Mai) a Paul Smith (7 Mehefin), maeโr flwyddyn nesaf yn edrych yn gyffrous iawn yn barod!
Mae aelodauโn cael blaenoriaeth wrth archebu lle, ac yn gallu archebu nawr. Mae tocynnau iโr cyhoedd ar werth o 1 Tachwedd ymlaen.