Os mai cerddoriaeth ydi bwyd serch, daliwch ati i’w chwarae…
Comedi o drionglau serch, ffraeo a chastiau direidus.
Mae efeilliaid sydd wedi bod mewn llongddrylliad yn cyrraedd glan mewn gwlad anghyfarwydd ymhell oddi wrth ei gilydd. Gan ddechrau byw eu bywydau newydd, gwahanol iawn, maen nhw’n cael eu denu’n gyflym i fyd lle mae uchelwyr yn dod yn weision a ffrindiau'n dod yn gariadon.
Gan ddehongli stori Shakespeare drwy lens cwiar drwy archwilio siwrnai Cesario, am y tro cyntaf fel cymeriad traws - mae ein cynhyrchiad newydd dyrchafol ni’n dathlu harddwch bod yn ni ein hunain heb ymddiheuro.
Mae comedi fwyaf Shakespeare yn cael ei hysgwyd yn y sioe hwyliog, llawn anhrefn yma.
Theatr Clwyd
Mae’r ddrama yma’n cynnig cyfle unigryw i ni archwilio cariad yn ei holl ffurfiau – anniben, llawen, cymhleth, a hynod ddynol. Mae’r fersiwn newydd deinamig yma’n archwilio’r ddrama drwy lens LHDTCIA+, mae’n ddathliad ac rydyn ni’n gwybod y bydd pawb yn gweld rhan ohonyn nhw eu hunain ar y llwyfan.Kate Wasserberg | Cyfarwyddwr Artistig
Cwestiynau Cyffredin
Oes angen i mi wybod am Shakespeare cyn dod?
Dim o gwbl. Mae'r stori'n glir, yn ddoniol, yn emosiynol, ac yn groesawgar i gynulleidfaoedd newydd.
What's the story?
***Contains Spoilers***
A shipwreck separates noble twins Cesario and Sebastian. Cesario finds himself washed up alone in the land of Illyria.
With aid from fool Feste, Cesario decides to serve Duke Orsino. Consumed by his love for noblewoman Olivia, Duke Orsino sends Cesario to woo her on his behalf. However Olivia falls for Cesario instead.
Olivia’s household is full of mischief. Her aunt Lady Toby Belch spends her nights drinking with the foolish Sir Andrew Aguecheek. Together with Olivia’s gentlewoman Maria they play a cruel trick on Olivia’s pompous steward Malvolio, convincing him that Olivia is in love with him.
Caught between Olivia’s love for them and his relationship with Orsino, Cesario must navigate his own feelings and figure out his place in Illyria.
Unbeknownst to Cesario, Sebastian was rescued by sea captain Antonio. When Sebastian arrives to Illyria the twins are mistaken for each other leading to utter confusion.
When the twins are finally reunited all misunderstandings are untangled. In the presence of Sebastian Cesario is ready to declare his love for Olivia and embrace his true self.
Ai testun Shakespeare sydd yn y ddrama o hyd?
Ie. Mae'r iaith yn parhau i fod yn agos at y gwreiddiol, gyda golygu dethol i gefnogi'r dehongliad yma.
Ai comedi neu ddrama ydi'r sioe?
Y ddau. Byddwch yn barod am chwerthin, rhamant, anhrefn, ac eiliadau o ddyfnder emosiynol go iawn.
Pa themâu mae'r cynhyrchiad yn eu harchwilio?
Cariad, hunaniaeth, trawsnewid, perthyn, a llawenydd byw yn onest.
Pam llwyfannu'r fersiwn yma nawr?
Rydyn ni eisiau cysylltu drama glasurol â sgyrsiau cyfoes brys am welededd a derbyn.
Beth mae'r gair 'cwiar' yn ei olygu?
Mae rhai pobl yn defnyddio 'cwiar' i ddisgrifio eu rhywioldeb, ac mae'n arwydd o fod y tu allan i norm cisryweddol a heteronormadol. Defnyddiwyd y term yn hanesyddol fel sarhad, ac mae'n dal i gael ei ystyried felly gan rai pobl LHDTCIA+. Fodd bynnag, mae eraill wedi ei hawlio ac maen nhw bellach yn cofleidio hunanuniaethu fel cwiar. Rydyn ni wedi dewis defnyddio'r term yma oherwydd bod ein sioe ni’n cwmpasu sbectrwm eang o gyfeiriadedd rhywiol a'r hunaniaethau rhywedd sydd i’w cael yn y gymuned LHDTCIA+.
Sut gallaf i ddysgu mwy?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy, cliciwch yma i weld rhestr o dermau a diffiniadau LHDTCIA+ gan Stonewall.
Oriel
Cast a Chreadigol

Joseph Benjamin Baker (e(f)/ei)
Sir Andrew Aguecheek
Lee Braithwaite (e(f)/ei)
Cesario
Öncel Camci (e(f)/ei)
Antonio
Philippa Cole (hi/ei)
Maria
Lucy Ellinson (hi/ei)
Lady Toby Belch
Jax Guerrero (e(f)/ei/nhw/eu)
Sebastian
Arwel Gruffydd (e(f)/ei)
Feste
Phylip Harries (e(f)/ei)
Malvolio
Garmon Rhys (e(f)/ei)
Orsino
Bethan Rose Young (hi/ei)
Olivia

















