Millie Lamkin: Cynllunydd Wedi'i Gyllido i'w logi ar gyfer 2024
See dates and times 9 Hyd 2023
News Story
Dyma alwad i theatrau ledled y DU am gyfle cynllunio a gefnogir gan Theatr Clwyd a Theatre Artists Fund.
Millie Lamkin yw'r Cynllunydd Dan Hyfforddiant yn Theatr Clwyd ar hyn o bryd ac mae ar gael ar gyfer gwaith cynllunio rhwng mis Chwefror a mis Awst 2024. Mae unrhyw waith y mae Millie yn ei wneud yn ystod y cyfnod hwn wedi cael ei gyllidoโn llawn. Yn ystod y cyfnod hwn bydd Millie yn symud i ail gam ei hyfforddiant gyda ni, syโn ei chefnogi i gysylltu รขโr diwydiant theatr ehangach a gweithio ar brosiectau y tu allan i Theatr Clwyd am 6 mis, amser sydd wediโi neilltuo iโw llwybr proffesiynol.
Graddiodd Millie o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) ym mis Gorffennaf 2022 a dechreuodd ar gam cyntaf ei hyfforddiant yn Theatr Clwyd ym mis Awst 2022. Ers hynny, mae wedi cael profiad mewnol o theatr weithredol. Hi oedd Cynorthwy-ydd Golygfaol ein pantomeim ni, Robin Hood, a gynlluniwyd gan Adrian Gee; ein cydgynhyrchiad gyda Chichester Festival Theatre, The Famous Five, sioe gerdd newydd, a gynlluniwyd gan Lucy Osbourne; a The Great Gatsby a gynlluniwyd gan Heledd Rhys. Hefyd, tra mae hi wedi bod gyda ni, mae Millie wedi bod yn Oruchwylydd Gwisgoedd ar un oโr prosiectau Cyfiawnder Cymunedol ac wedi bod yn ymwneud รข phrosiectau ymgysylltu creadigol amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Hi hefyd gynlluniodd y set aโr gwisgoedd ar gyfer Truth or Dare, cyfle gwych i gydweithio รข phedwar cyfarwyddwr gwahanol a gweithio ar 10 drama newydd.
0 Stars
Mae gweithio mewn tลท cynhyrchu am y flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu llawer iawn i mi am y diwydiant a fy ymarfer i fy hun. Rydw i'n arbennig o gyffrous am theatr gymunedol ac archwilio'r effaith y gall y celfyddydau ei chael ar bobl. Mae gen i ddiddordeb mewn adrodd straeon sydd รข naws wleidyddol, y mae angen eu hadrodd aโu rhannu รขโr byd. Fe fyddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan mewn pob math o brosiectau, boed yn ysgrifennu newydd, yn benodol i safle, neuโn ddrama glasurol.Millie Lamkin
Os oes gan gwmnรฏau ddiddordeb mewn trafod y cyfle i Millie gynllunio cynhyrchiad ar eu cyfer rhwng nawr a mis Awst 2024, gyda holl gostau ei hamser yn cael eu talu gan Theatr Clwyd a Chronfaโr Artistiaid, cysylltwch รข Wesley Bennett-Pearce wesley.bennett-pearce@theatrclwyd.com
Agor oriel o luniau



