Cyllidwyr preifat mawr yn addo cefnogaeth sylweddol i ailddatblygu Theatr Clwyd
See dates and times 5 Mai 2022
News Story

Mae Theatr Clwyd yn cyhoeddi heddiw ei bod wedi derbyn rhoddion sylweddol gan rai o gyllidwyr dyngarol preifat mwyaf y byd i gefnogi ei gwaith ailddatblygu cyfalaf mawr. Maeโr elusen gelfyddydol sydd wediโi lleoli yng Ngogledd Cymru wedi cymryd cam sylweddol ymlaen tuag at ei tharged codi arian preifat a chyhoeddus o ยฃ5m gyda rhoddion mawr ac addewidion gan y Moondance Foundation (ยฃ1.5m), y Wolfson Foundation (ยฃ0.5m), y Garfield Weston Foundation (ยฃ0.5m). 0.5m) a dyngarwr lleol dienw (ยฃ0.5m). Mae'r sefydliad hefyd yn parhau รข'i waith cymunedol arobryn yn ystod y cyfnod adeiladu diolch i gefnogaeth sylweddol gan yr Esmรฉe Fairbairn Foundation (ยฃ300k).
Mae ailddatblygiad Theatr Clwyd bellach wedi derbyn rhoddion syโn fwy naโr swm uchaf blaenorol a godwyd gan theatr yng Nghymru, a hefyd y rhodd unigol fwyaf erioed i sefydliad celfyddydol yng Nghymru gan y Moondance Foundation.
Mae ailddatblygiad Theatr Clwyd yn un o brosiectau mwyaf arwyddocaol yn ddiwylliannol Cymru โ syโn cael ei ddisgrifio gan Lywodraeth Cymru fel elfen allweddol i sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol i Ogledd Cymru. Bydd yn sicrhau bod yr adeilad, sydd wedi dirywio gydaโi holl systemau aโi seilwaith wedi cyrraedd diwedd eu hoes, yn gallu cael ei adfywio, gydaโi rรดl, ei wasanaethau aโi raglenni hanfodol yn cael eu hachub ar gyfer cenedlaethauโr dyfodol. Bydd y prosiect trawsnewid hwn yn darparu profiad llawer gwell i ymwelwyr, mannau penodol ar gyfer rhaglenni cymunedol ac ymgysylltu, a chyfleusterau cynhyrchu incwm gwell, i gyd mewn adeilad gwyrddach, mwy effeithlon.
0 Stars
Pan wnaethon ni ddechrau ar y siwrnai gyfalaf yma yn 2017 fe gawsom ni wybod ei bod yn annhebygol y byddem yn codi mwy na ยฃ2m o fuddsoddiad preifat ar gyfer theatr yng Nghymru. Oherwydd cefnogaeth hael y cyllidwyr arweiniol yma rydyn ni eisoes wedi cyrraedd ยฃ3m. Mae hon yn bleidlais rymus o hyder yn Theatr Clwyd, ein gwerthoedd, ansawdd ein gwaith yn creu theatr, aโn gwaith cymunedol hynod bwysig. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cymryd cam arall tuag at ddarparu cartref o safon byd i aelodau ein cwmni aโn cymunedau, ac maeโn cynnig rheswm arall iโr celfyddydau yng Nghymru fod yn falch am genedlaethau i ddod. Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth รขโr cyllidwyr arweiniol gwych yma dros y blynyddoedd sydd i ddod i sicrhau effaith sylweddol ar gyfer eu buddsoddiad yn ein siwrnai.Dywedodd Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd.
Gan gyfrannuโr rhodd breifat fwyaf erioed i sefydliad celfyddydol yng Nghymru, bydd rhodd y Moondance Foundation o ยฃ1.5m yn cyllido mannau diogel, naturiol, hygyrch, wediโu dylunioโn benodol ar gyfer anghenion a defnydd pobl ifanc, ond hefyd yn cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol yr adeilad cwbl fodern yma. Mae Moondance yn adnabyddus fel cyllidwr dyngarol mawr syโn cefnogi sefydliadau syโn cael effaith drawsnewidiol mewn cymunedau yng Nghymru a thu hwnt. |
0 Stars
Mae Theatr Clwyd yn eithriadol โ yn arweinwyr o fewn eu maes, ac yn uchelgeisiol ac arloesol โ aโr cyfan gydaโr gymuned wrth galon yr hyn maen nhwโn ei wneud. Rydyn niโn gwybod, heb amheuaeth, bod angen i ni sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a sicrhau bod eu gwaith arloesol yn parhau. Rydyn ni hefyd wrth ein bodd yn cefnogi gweledigaeth cynaliadwyedd amgylcheddol Theatr Clwyd.Dywedodd Diane Briere de IโIsle Engelhardt, Sylfaenydd a Chadeirydd y Moondance Foundation.
TheWolfson Foundation wedi ymrwymo ยฃ500,000 tuag at y prosiect nodedig hwn โ y grant mwyaf maent wediโi roi i sefydliad celfyddydol yng Nghymru ers dros 60 mlynedd. Gan ganolbwyntio ar sicrhau datblygiad cynnyrch a thalent artistig o safon byd yng Nghymru, bydd y cyllid hanfodol hwn yn sicrhau ystafelloedd ymarfer gyda chyfarpar gwych, theatrau hynod dechnolegol, a llwybrau agored i bawb ar gyfer artistiaid, ymarferwyr a phobl greadigol newydd.
0 Stars
Maeโn bleser gan y Wolfson Foundation gefnogi prosiect nodedig Theatr Clwyd, gan barhau รขโn hanes o gefnogi celfyddydau a diwylliant Cymru. Mae lefel ein hymrwymiad โ yr uchaf ar gyfer prosiect celfyddydau perfformio yng Nghymru โ yn adlewyrchu ein brwdfrydedd aโn cefnogaeth i weledigaeth uchelgeisiol Theatr Clwyd ar gyfer cymuned Sir y Fflint aโr celfyddydau yng Ngogledd Cymru.Dywedodd Paul Ramsbottom, Prif Swyddog Gweithredol y Wolfson Foundation.
TheGarfield Weston Foundation wedi addo ยฃ500,000 hefyd. Maeโr addewid hwn yn elfen hollbwysig yn ymgyrch codi arian cyfalaf Theatr Clwyd a bydd yn sicrhau mynediad eang iโr celfyddydau i bawb mewn cymdeithas, drwy wellaโr seilwaith creadigol hanfodol. |
Yn olaf, maeโr Esmรฉe Fairburn Foundation wedi rhoi dyfarniad hollbwysig o ยฃ300,000 i sicrhau bod rhaglenni cymunedol ac ieuenctid clodwiw Theatr Clwyd syโn ganolog i genhadaeth y sefydliad yn parhau drwy gydol y datblygiad. Tra maeโr gwaith adeiladu sylweddol yn digwydd, gall prosiectau ymgysylltu creadigol โ gan gynnwys prosiectau gyda phobl ifanc syโn wynebu risg, y rhai sydd รข cholled cof cynnar a dementia a rhaglenni cyfrifoldeb dinesig mewn ysgolion โ barhau i ffynnu a thyfu.
0 Stars
Mae Theatr Clwyd yn chwarae rhan annatod yng nghymuned yr Wyddgrug a Sir y Fflint yn ehangach โ nid yn unig ar gyfer y celfyddydau a diwylliant, ond hefyd wrth ddod รข phobl a sefydliadau at ei gilydd i greu cymunedau ffyniannus a chynhwysol. Rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogiโr prosiect hwn, syโn anelu at adeiladu ar eu gwaith yn ystod y cyfnod o gau i ailddychmygu rhaglenni mwy uchelgeisiol dan arweiniad y gymuned. Mae Esmรฉe wedi cefnogi mwy na 150 o grantiau yng Nghymru a bydd cefnogi Theatr Clwyd fel sefydliad syโn gwasanaethu cymunedau mwy gwledig a lled-wledig fel rhan oโn gwaith seiliedig ar le Cymunedau Hyderus yn Greadigol yn dod ag amrywiaeth werthfawr iโn portffolio o brosiectau yng Nghymru.Dywedodd Charlotte Mulliner, Swyddog Cyllid yr Esmรฉe Fairbairn Foundation.
Maeโr mwy na ยฃ3.3m o roddion o gyllid yn cynrychioli cam mawr tuag at darged codi arian Theatr Clwyd, gyda chyhoeddiadau pellach am bartneriaid codi arian iโw cyhoeddi yn nes ymlaen yn 2022.
Maeโr prosiect hefyd wedi derbyn cyllid cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint, gan alluogi cyflawniad llwyddiannus y cyllid preifat a dyngarol sylweddol hwn.
0 Stars
Drwy ei gwasanaethau aโi phartneriaethau arloesol mae Theatr Clwyd yn dod รข manteision cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sylweddol i Gymru, yn enwedig y cymunedau lleol yng ngogledd ddwyrain Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio gydaโr tรฎm i gyflawni prosiect mor gyffrous ac arloesol.Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Chwaraeon a Chelfyddydau Llywodraeth Cymru.
0 Stars
Mae hwn yn gyfnod deinamig yn hanes y theatr โ maeโr dyfodol yn edrych yn ddisglair gydaโr theatr yn parhau fel canolfan gelfyddydau hanfodol a bywiog wrth galon ein cymuned.Dywedodd Neal Cockerton, Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint.
0 Stars
Mae Theatr Clwyd yn dangos yr effaith honnoโn gyfoethog drwy ei chynyrchiadau o ansawdd uchel a thrawiadol, ei gwaith allgymorth cymunedol aโi gwaith mewn meysydd fel y Celfyddydau a Dementia a chyfiawnder ieuenctid. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn rhoi egni pellach iโr holl waith ac o fudd mawr i bobl gogledd ddwyrain Cymru.Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.