Cyhoeddi Kate Wasserberg fel Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Clwyd
See dates and times 2 Maw 2023
News Story

Mae Theatr Clwyd wedi cyhoeddi mai eu Cyfarwyddwr Artistig newydd fydd Kate Wasserberg. Yn gyfarwyddwr hynod brofiadol ac uchel ei pharch, Kate oedd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni ysgrifennu newydd Stockroom a The Other Room yng Nghaerdydd ac mae wedi cyfarwyddo cynyrchiadau mawr sydd wedi teithioโn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Yn grรซwr theatr arobryn, mae gan Kate gysylltiad hir รข Theatr Clwyd, gan wasanaethuโr Theatr yn rhagorol fel Cyfarwyddwr Cyswllt o dan arweiniad y diweddar Terry Hands, yn ogystal รข chyfarwyddo, yn fwy diweddar, y cynyrchiadau poblogaidd o All My Sons, Insignificance a The Rise and Fall of Little Voice yn y lleoliad yn Sir y Fflint.
Am ei phenodiad dywedodd Kate Wasserberg:
โRydw i mor falch o gael ymuno รขโr tรฎm anhygoel yn Theatr Clwyd i fynd รขโr sefydliad hynod yma ymlaen i ddyfodol disglair. Mae gan Gymru'r artistiaid gorau yn y byd ac mae'n anrhydedd enfawr i mi gael y cyfle i wneud fy nghartref yno. Yn ein hadeilad newydd rhyfeddol, fe fyddwn niโn creu cartref i gynulleidfaoedd, artistiaid aโr gymuned sydd o safon byd o ran y cynnyrch artistig aโr ffordd maeโn gofalu am bobl. Rydw i wedi gwylio gyda llawenydd y diwylliant o garedigrwydd ac uchelgais syโn cael ei feithrin yn Theatr Clwyd, ac rydw i eisiau diolch iโr bwrdd am weld ynof i arweinydd a all barhau i adeiladu ar y gwerthoedd yma. Rydw iโn edrych ymlaen gymaint at ddechrau arni!"
Bydd Kate yn gweithio mewn partneriaeth รขโr Cyfarwyddwr Gweithredol, Liam Evans-Ford, a ddywedodd:
โRydw i'n hynod gyffrous. Dim ond rhai oโr rhesymau dros gyffro oโr fath ydi safon creu theatr Kate, yr wybodaeth aโr gwerthfawrogiad sydd ganddi oโr Theatr yng Nghymru a thalentau Cymru, aโi chariad at aโi gwerthfawrogiad dwfn o Theatr Clwyd. Bydd gweithio ochr yn ochr รข Kate yn anrhydedd ac rydw iโn sicr, gydaโi harweinyddiaeth artistig hi, y byddwn niโn adeiladu ar lwyddiant y cwmni, ar y llwyfan ac oddi arno, wrth i ni baratoi i agor ein hadeilad newydd a pharhau i gyflwyno gwaith o ansawdd uchel iโn cymunedau ni.โ
Ychwanegodd Cadeirydd Bwrdd Theatr Clwyd, Helen Watson:
โAr รดl proses recriwtio drylwyr rydyn ni wrth ein bodd gyda phenodiad Kate Wasserberg. Fe wnaeth Kate gryn argraff drwy gydol y broses gydaโi thalent aruthrol, ei henw da amlwg aโi hangerdd dros y Theatr yng Nghymru. Does dim amheuaeth, gyda Chyfarwyddwr Artistig mor fedrus wrth y llyw yn ein theatr ni, y bydd hwn yn gyfnod arbennig iawn i gymunedau, ac yn bennod newydd gyffrous i Theatr Clwyd.โ
Mae Kate Wasserberg yn cymryd lleโr cyn Gyfarwyddwr Artistig, Tamara Harvey, syโn ymuno รขโr Royal Shakespeare Company fel Cyfarwyddwr Artistig ar y Cyd yn nes ymlaen eleni.

Kate Wasserberg โ Bywgraffiad
Yn un o gyfarwyddwyr mwyaf blaenllaw y DU, roedd yr arobryn Kate Wasserberg yn Gyfarwyddwr Artistig Stockroom, yn Gyfarwyddwr Artistig a sefydlodd The Other Room yng Nghaerdydd ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Theatr Clwyd aโr Finborough Theatre.
Mae ei chynyrchiadau wedi cynnwys y canlynol: The Glee Club, Close Quarters a Rita, Sue and Bob Too (Stockroom); Blasted, The Dying of Today, Play/Silence, Sand a Seanmhair (The Other Room); Aristocrats, Salt, Root and Roe, Glengarry Glen Ross, Roots, Gaslight, Dancing at Lughnasa, Pieces (hefyd Brits Off Broadway), The Glass Menagerie, A History of Falling Things, All My Sons, Insignificance a The Rise and Fall of Little Voice (Theatr Clwyd); Mirror Teeth, The Man,Sons of York, Little Madam, The Representative, I Wish to Die Singing a The New Morality (Finborough Theatre); The Barnbow Canaries (Leeds Playhouse); Ten Weeks (Paines Plough); The Knowledge (Dirty Protest yn y Royal Court); Switzerland (Hightide) a Last Christmas (Gลตyl Caeredin).
Mae Kate wedi ennill dwy o Wobrau Theatr Cymru fel y Cyfarwyddwr Gorau a Chyfarwyddwr Artistig The Other Room yng Nghaerdydd ac enillodd y lleoliad Wobr Papur Newydd The Stage i Theatr Fringe y Flwyddyn. Mae hiโn olygydd ar y cyd Contemporary Welsh Plays, a gyhoeddwyd gan Methuen.
Maeโr prosiectau sydd gan Kate ar y gorwel yn cynnwys Alice in Wonderland wediโi addasu gan Stockroom (Liverpool Playhouse aโr Theatre Royal Plymouth) a Boys from the Blackstuff gan James Graham (Liverpool Royal Court).