Cyhoeddi’r cast ar gyfer Panto Roc a Rôl Theatr Clwyd, Mother Goose
See dates and times 23 Gorff 2024
News Story
Cyhoeddodd Theatr Clwyd yn gynharach eleni mai ei phanto Roc a Rôl eleni fydd Mother Goose. Gyda 16,000 o docynnau wedi'u harchebu eisoes mae'r panto chwedlonol yn draddodiad i lawer ar draws Gogledd Cymru. Heddiw mae'r lleoliad wedi cyhoeddi'r cast llawn gyda nifer o ffefrynnau’n dychwelyd.
Yn dychwelyd i’r llwyfan mae brenin dêms y panto Phylip Harries fel Gwladys Goose (Sleeping Beauty), Dan Bottomley fel Barry (Sleeping Beauty), Joe Butcher fel Freddie the Fox (Robin Hood), Celia Cruwys-Finnigan fel Mari Goose (Sleeping Beauty), Alice McKenna fel Billie Eyelash (Sleeping Beauty), Chioma Uma fel Carrie (Robin Hood) a Georgina White fel Suella De Rhyl (Sleeping Beauty).
Yn perfformio am y tro cyntaf ym mhanto Theatr Clwyd bydd Imad Eldeen fel Hari Parry, Ryan Owen fel Glennie Goose a Steve Simmonds fel Lord Larry Parry.
Bydd y sioe yn cael ei hysgrifennu unwaith eto gan yr awdur arobryn Christian Patterson. Mae Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Clwyd Daniel Lloyd (Constellations, Sleeping Beauty) yn dychwelyd i gyfarwyddo’r Panto Roc a Rôl eleni.
0 Stars
Rydw i mor gyffrous am fod yn dychwelyd i’r Brif Theatr ar ôl y Babell Fawr a chyn i’r adeilad llawn agor y flwyddyn nesaf. Wedi perfformio ar y llwyfan yma droeon, rydw i’n gwybod faint o wefr fydd y cast cwbl ardderchog yma'n ei phrofi ac rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein cynulleidfaoedd ni'n ôl i mewn. Mae Mother Goose yn Ddêm panto gwbl arbennig ac mae’n argoeli i fod yn wledd wych i bawb.Daniel Lloyd
Phylip Harries
Gwladys GooseJoe Butcher
Freddie the FoxAlice McKenna
Billie EyelashChioma Uma
CarrieGeorgina White
Suella De RhylImad Eldeen
Hari ParryRyan Owen
Glennie GooseSteve Simmonds
Lord Larry Parry
Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Adrian Gee, y Coreograffydd: Jess Williams, y Cyfarwyddwr Cerdd: Tayo Akinbode, y Cynllunydd Goleuo: Johanna Town, y Cynllunydd Sain: Ian Barnard, y Cyfarwyddwr Castio: Jenkins McShane Casting CDG, Rheolwr Llwyfan y Cwmni: Alec Reece, y Dirprwy Reolwr Llwyfan: Ed Salt a’r Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: EmmaHardwick. Mae'r broses o recriwtio ar gyfer rôl y Cyfarwyddwr Cynorthwyol wedi dechrau a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 5 Awst.
Mae Theatr Clwyd yn un o bedair theatr yn unig yn y wlad sy’n adeiladu setiau ac yn creu props a golygfeydd ac yn eu paentio ac yn gwneud gwisgoedd yn gyfan gwbl yn fewnol. Ac fe fydd hynny’n digwydd gyda’r cynhyrchiad yma hefyd. Mae’r tîm creadigol wedi bod yn gweithio’n galed eisoes i ddod â’r cynhyrchiad yma yn fyw.
Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer y sioe eleni gyda mwy na 16,000 wedi’u harchebu eisoes, felly byddwch yn gyflym ac archebwch nawr.
Mae posib gweld Mother Goose yn Theatr Clwyd rhwng dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024 a dydd Sul 19 Ionawr 2025. Bydd y sioe’n cael ei chynnal yn y brif theatr ar ei newydd wedd gyda’r cyntedd, y bar a’r toiledau yn y cyfleusterau dros dro wrth ymyl y theatr.
Bydd perfformiadau hygyrch yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
BSL 13 Rhagfyr 7pm a 4 Ionawr 2pm.
Gyda Chapsiynau 23 Rhagfyr 7pm a 10 Ionawr 7pm
Sain Ddisgrifiad 7 Rhagfyr 2pm a 7pm ac 16 Ionawr 7pm
Perfformiad hamddenol 15 Ionawr 6:30pm