Blog: Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd, Cath Sewell, yn adlewyrchu ar y Cyngherddau Profiadau Cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
See dates and times 24 Mai 2024
News Story

Gan Cath Sewell (Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd)
Mae dyddiauโn dod heibio syโn fy atgoffa i o ba mor lwcus ydw i i weithio ym myd addysg cerddoriaeth. Roedd ein cyngherddau Profiadau Cyntaf niโn cynnwys cerddorion o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) ym mis Ebrill yn ddau ohonyn nhw.
Roedd y pedwar cyngerdd yn benllanw dau dymor o ddysgu cerddorol i blant o ysgolion cynradd ac arbenigol Sir y Fflint sydd wedi bod yn cymryd rhan yn ein rhaglen Profiadau Cyntaf. Maeโr rhaglen bwysig yma, gyda chymorth cyllid gan Wasanaeth Crddoriaeth Cenedlaethol Cymru, wedi ein galluogi ni i ddarparu gwersi wythnosol ar gyfer dosbarthiadau blwyddyn 3 ym mhob un o ysgolion cynradd Sir y Fflint bron.

Fe ddaethom ni รข 1600 o ddisgyblion o fwy na 60 o ysgolion at ei gilydd, ymarfer logistaidd sylweddol ac, er mwyn gwneud pethauโn fwy cyffrous, nid dim ond gwylioโr sioe oedden nhw โ roedden nhwโn mynd i ymuno. Rydyn ni wedi bod yn addysgu amrywiaeth o wahanol offerynnau yn yr ysgolion, felly roedd gennym ni ddisgyblion yn chwarae ffidlau, soddgrythau, seiloffonau, offerynnau pres a recordyrs ochr yn ochr รข grwpiau oedd wedi canolbwyntio ar ganu.
Y cynllun oedd i bob un oโr 1600 o blant berfformio trefniannau o In the Hall of the Mountain King gan Grieg a Firebird Suite gan Stravinsky gydag ensemble BBC NOW ac wedyn canu trefniant o โLet your Sprit Flyโ i ddod รขโr cyngerdd i ben.
Roeddwn i braidd yn nerfus am sut byddem yn dod รข grwpiau cydlynol o fwy na 400 o offerynwyr syโn ddechreuwyr at ei gilydd ar gyfer pob cyngerdd ond fe wnaeth ein tรฎm ni, BBC NOW aโn cerddorion ifanc ni wynebuโr her. Fe wnaed llawer iawn o waith yn ystod yr wythnosau cyn y cyngerdd, gan olygu eu bod nid yn unig yn dechrau ac yn gorffen gyda'i gilydd ond yn chwarae gan gadw amser ac mewn tiwn. Roedd y lefelau canolbwyntio yn anhygoel!
Maeโn rhaid i mi sรดn am y canu โ o, y canu! Does dim byd tebyg i ganu gyda'ch gilydd i atgyfnerthu ymdeimlad cyffredin o gysylltiad. Roedd y safon yn wych gydaโr bobl ifanc hefyd yn dysgu'r geiriau mewn Makaton, ffurf ar iaith arwyddion. Fe gyfaddefodd mwy nag un oโr gwesteion pwysig ddaeth iโn cefnogi ni bod ganddyn nhw ddagrau yn eu llygaid pan wnaethon ni gyrraedd y rhan yma oโr cyngerdd.

Maeโn gyfnod heriol iโr sector addysg ond rydw iโn gwybod, iโr athrawon, cynrychiolwyr y cyngor, aโr bobl eraill syโn gwneud penderfyniadau oedd yn ddigon ffodus i fynychuโr cyngherddau yma, ein bod ni wedi dangos gwerth aruthrol cerddoriaeth a pherfformiadau byw fel rhan oโr cwricwlwm.
โMae cyfleoedd oโr fath yn bwysicach nag erioed. Os ydyn ni am gyfoethogi bywydau disgyblion gydaโr celfyddydau fel maeโr cwricwlwm newydd i Gymru yn ein hannog ni i wneud, mae cael profiad o gerddoriaeth a theatr fyw mor bwysig. Bydd toriadau yn y gyllideb yn golygu na fydd llawer o ysgolion yn gallu darparu cyfleoedd oโr fath ac i lawer o ddisgyblion dim ond drwyโr ysgol maen nhwโn cael cyfle i ddod i gysylltiad รขโr celfyddydau.โ
Ysgol Gynradd Yr Hybarch Edward Morgan, Shotton
Mae rhaglenni fel Profiadau Cyntaf a digwyddiadau fel y cyngherddau hyn yn ymwneud รข llawer mwy na datblygu sgiliau cerddorol. Maen nhwโn galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu hyder, empathi, creadigrwydd, sgiliau gwaith tรฎm a gwydnwch. Dylem geisio sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle i gael cerddoriaeth aโr celfyddydau yn rhan hanfodol oโu haddysg aโu bywydau.
โDyma un oโr pethau mwyaf gwerth chweil i mi ei wneud gyda fy nisgyblion. Mae'r cwricwlwm newydd yn gofyn am bwrpas bywyd go iawn i ddysgu. Dyma'n union beth ydi hynny. Y bore hwnnw yn ein gwasanaeth roedden ni wedi trafod uchelgais โ ac fe wnaeth un disgybl ddweud, rydw i newydd ddod o hyd i fy uchelgais, efallai rhyw ddiwrnod y gallaโ i wneud beth maen nhwโn ei wneud.โ
Ysgol Rhos Helyg
O.N: Diolch yn arbennig i Dรฎm Cyswllt Cerddoriaeth Theatr Clwyd aโr Cydlynydd Profiadau Cyntaf, Susie Jones, Cameron Biles-Liddel a BBC NOW, y tรฎm yn Neuadd William Aston aโn cyflwynydd ni, Iwan Garmon.
