Technegydd lleoliad (Neuadd William Aston) - Tymor Penodol
Disgrifiad Swydd

Gweithio fel rhan o'r tîm technegol a, dan oruchwyliaeth Rheolwr Technegol Lleoliad, darparu gwasanaeth o’r safon uchaf posibl i bob cynhyrchiad teithiol.
Math o Gontract- Tymor Penodol
Oriau - 25 yr wythnos
Y Rôl
Cyffredinol
- Darparu cymorth technegol i holl ddefnyddwyr y lleoliad
- Darparu cymorth technegol yn ystod perfformiadau yn ôl yr angen.
- Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â sefydlu, gosod, clirio a gadael gan gynnwys cydosod, rigio, addasu a defnyddio golygfeydd, propiau, rigio ac offer codi, offer goleuo, effeithiau arbennig ac offer sain.
- Cyflwyno cynlluniau ac amserlenni, yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr Technegol Lleoliad mewn perthynas â gosod a rigio offer technegol.
- Gosod offer technegol sydd ei angen ar gyfer y mannau perfformio neu ddigwyddiadau.
- Lle bo angen, rhoi cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
- Cymryd cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r safle o ddydd i ddydd.
- Bod yn gyfrifol am agor a chau ardaloedd cefn llwyfan pan fo angen.
Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod yr holl ofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni bob amser wrth weithio.
- Mynd i hyfforddiant yn ôl yr angen a chynnal ymwybyddiaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch sy'n benodol i'r mannau a'r offer a ddefnyddir.
- Gyda Rheolwr Technegol Lleoliad, cydlynu gwiriadau diogelwch rheolaidd o'r holl offer technegol, peiriannau, gosodiadau a ffitiadau.
- Sicrhau bod yr holl offer arbenigol wedi'i gau i lawr yn gywir ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.
- Sicrhau bod pob perygl posibl yn cael ei wneud yn ddiogel cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.
- Cynorthwyo i staff ac aelodau’r gynulleidfa adael yr adeilad yn ddiogel os bydd tân neu argyfwng.
- Ar y cyd â’r Rheolwr Technegol Lleoliad, sicrhau bod gweithwyr allanol yn cael gwybod yn llawn sut mae defnyddio gofod y theatr yn ddiogel.
- Adolygu asesiadau risg a datganiadau dull, a sicrhau bod gwelliannau neu bryderon yn cael eu hadrodd i’r Rheolwr Technegol Lleoliad
Arall
- Sicrhau bod yr holl offer yn cael ei storio'n ddiogel a'i fod yn hygyrch i ddefnyddwyr awdurdodedig.
- Cynnal rhestr eiddo o'r holl offer a deunyddiau a gedwir ac a ddefnyddir.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cais rhesymol Rheolwr Technegol Lleoliad.
Y Person
Hanfodol
- Profiad perthnasol ymarferol o weithio mewn adran dechnegol lleoliad neu theatr, neu gwmni teithiol neu debyg, neu gymhwyster cydnabyddedig priodol fel arall.
- Profiad mewn rigio, addasu, rhaglennu a gweithredu offer goleuo theatrig, sain ac AV, dosbarthu pŵer, systemau cyfathrebu a rheoli.
- Gwybodaeth am theori ac ymarfer trydanol sy'n ymwneud â goleuadau a sain theatrau a systemau cyfathrebu.
- Gwybodaeth gyfoes am systemau goleuo a sain, cyfarpar rheoli, offer a'i gynnal a'i gadw.
- Profiad o rigio, addasu a gweithredu rigio theatrig a systemau hedfan.
- Profiad o osod a rigio systemau golygfeydd a llwyfannau.
- Gwybodaeth ymarferol am ddulliau rigio a defnyddio offer codi yn ddiogel.
- Gallu amlwg i ddarllen a deall cynlluniau technegol, gyda gwybodaeth am CAD a chymwysiadau eraill.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, a'r gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gyson â holl ddefnyddwyr theatr a gofod digwyddiadau, yn enwedig defnyddwyr nad ydynt yn dechnegol. Yn gallu defnyddio ystod eang o offer pŵer cludadwy ac offer llaw yn ddiogel ac yn hyderus.
- Dull trefnus, gyda hanes amlwg o gyrraedd terfynau amser a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.
- Profiad o roi gofynion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau risg ar waith.
- Hyfforddiant mewn trin â llaw, MEWP, defnyddio ysgolion a thalesgopau.
- Profiad o godi a chariot offer yn ddiogel, a pharodrwydd i weithio ar uchder
- Hyder wrth weithio'n annibynnol ond hefyd parodrwydd i gydweithio ar draws llawer o adrannau.
- Yn gallu gweithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol gan gynnwys gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.