Technegydd Lleoliad
Disgrifiad Swydd

Rydym yn chwilio am Dechnegydd Lleoliad i ymuno â’n tîm aml-sgil ar gyfer cyfle cyffrous ar gontract tymor byr, cyfnod penodol.
Mae ein Technegwyr Lleoliad yn cefnogi cyflwyno amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar draws ein mannau perfformio hyblyg, gan ddiwallu holl anghenion technegol ein cynyrchiadau ein hunain a chwmnïau sy’n ymweld. Wrth weithio dan arweiniad y Rheolwr Technegol, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaeth technegol o ansawdd uchel i Theatr Clwyd ac i gynyrchiadau sy’n ymweld, gan sicrhau’r safonau uchaf posibl ar gyfer pob digwyddiad — gan gynnwys ein pantomeim roc a rôl sydd wedi ennill clod mawr.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â chyfuniad o sgiliau ym maes un neu fwy o’r meysydd canlynol:
• Gweithrediadau Llwyfan
• Systemau Codi a Gostwng (Counterweight Flying)
• Goleuo
• Sain
• AV (sain a fideo)
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr sydd â sgiliau a phrofiad cryf ym meysydd Sain, Goleuo a/neu AV.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel rhan o dîm technegol cefnogol ac amlbwrpas mewn amgylchedd lleoliad prysur ac amrywiol, gan gyfrannu at ystod eang o gynyrchiadau a digwyddiadau.
Math o Gontract: Tymor Penodol - 31/01/2027
Oriau: 37 yr wythnos
Y Rôl
Gweithio fel rhan o’r tîm technegol ac, o dan oruchwyliaeth Rheolwr Technegol y Lleoliad, darparu gwasanaeth i holl gynyrchiadau Theatr Clwyd a chynyrchiadau sy’n ymweld sydd o’r safon uchaf bosibl.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darparu cefnogaeth dechnegol i holl ddefnyddwyr y lleoliad.
- Darparu gwasanaeth technegol yn ystod perfformiadau yn ôl yr angen.
- Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â dod i mewn, ffitiadau, tynnu i lawr a mynd allan gan gynnwys gosod, rigio, addasu a defnyddio golygfeydd, props, offer rigio a chodi, offer goleuo, effeithiau arbennig ac offer sain.
- Cadw at gynlluniau ac amserlenni, yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr Technegol y Lleoliad mewn perthynas â ffitio a rigio offer technegol.
- Gosod unrhyw offer technegol sydd ei angen ar gyfer gofod perfformio neu ddigwyddiadau.
- Pan fo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
Y Person
- Profiad ymarferol perthnasol o weithio mewn lleoliad neu adran dechnegol theatr, neu gwmni teithiol neu debyg, neu gymhwyster cydnabyddedig priodol arall.
- Profiad o rigio, addasu, rhaglennu a gweithredu offer goleuo, sain a chlyw-weledol theatrig, a systemau dosbarthu pŵer, cyfathrebu a rheoli.
- Gwybodaeth am theori ac ymarfer trydanol sy'n ymwneud â systemau goleuo, sain a chyfathrebu theatr.
- Gwybodaeth gyfredol am systemau goleuo a sain, cyfarpar rheoli, offer a'r gwaith o'u cynnal a'u cadw.
- Profiad o rigio, addasu a gweithredu systemau rigio a hedfan theatrig.
- Profiad o osod a rigio systemau decin llwyfannau a golygfeydd.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
PLEASE NOTE: By clicking on this link, you will automatically be redirected to a new webpage, where you will find the full Job Description and you can complete an online application to be considered for this role.
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.