Rheolwr digwyddiadau a lletygarwch
Disgrifiad Swydd

Helpwch i Greu Rhywbeth Newydd
Rydyn ni’n chwilio am Reolwr Digwyddiadau a Lletygarwch sy’n uchelgeisiol, yn llawn egni ac â’i fryd ar fasnach i arwain maes newydd, cyffrous o’n busnes.
Dyma gyfle unigryw i rywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac sy’n awyddus i chwarae rôl allweddol yn y gwaith o adeiladu a datblygu cynnig digwyddiadau a lletygarwch o’r dechrau un.
O ddigwyddiadau corfforaethol a digwyddiadau llogi preifat, i briodasau ac achlysuron arbennig, byddwch yn helpu i greu profiadau bythgofiadwy i’n cwsmeriaid, yn ogystal â sbarduno twf incwm a rhagoriaeth weithredol.
Os ydych chi’n ymarferol, yn greadigol, yn drefnus ac yn frwd dros greu digwyddiadau a phrofiadau gwych i gwsmeriaid, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Math o Gontract- Parhaol
Oriau - 37 yr wythnos
Y Rôl
Prif Gyfrifoldebau
- Nodi a sicrhau cyfleoedd busnes newydd ar draws y sectorau corfforaethol, preifat a chymunedol
- Cyrraedd a rhagori ar dargedau gwerthu ar gyfer llogi’r lleoliad, digwyddiadau a gwasanaethau cysylltiedig
- Datblygu a gweithredu strategaethau gwerthu i gynyddu deiliadaeth a refeniw
- Bod yn brif bwynt cyswllt i gleientiaid o’r ymholiad cyntaf i’r digwyddiad ei hun
- Meithrin a chynnal perthynas hirdymor â chleientiaid corfforaethol, asiantaethau, a busnesau lleol
- Cyflwyno cynigion a rhoi cyflwyniadau wedi’u teilwra i ddarpar gleientiaid
- Helpu cleientiaid i gynllunio eu digwyddiadau, gan sicrhau bod y gofynion yn cael eu bodloni heb fynd dros y gyllideb
- Gweithio’n agos gyda thîm Bryn Williams yn Theatr Clwyd i sicrhau bod yr holl ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn ddidrafferth, a bod disgwyliadau cleientiaid yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth weithredol
- Gweithio gyda’r timau marchnata a datblygu i hyrwyddo gofod a phecynnau digwyddiadau
- Cynrychioli Theatr Clwyd mewn sioeau masnach, digwyddiadau rhwydweithio ac arddangosfeydd
Y Person
Hanfodol
- Profiad helaeth o werthu ym maes digwyddiadau, lleoliadau neu letygarwch
- Profiad helaeth o ddarparu digwyddiadau
- Enw da am gyrraedd neu ragori ar dargedau refeniw
- Profiad o reoli a gwerthu gofod ar gyfer digwyddiadau a llogi corfforaethol neu breifat
- Sgiliau cyfathrebu a thrafod ardderchog
- Gallu rheoli nifer o brosiectau a dyddiadau terfyn yn effeithiol
- Agwedd ragweithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac ar ganlyniadau
- Aelod da o dîm sy’n gallu cydweithio a meithrin perthynas effeithiol gyda chydweithwyr ar draws gwahanol dimau a lefelau yn y cwmni

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.