Cyswllt Creadigol (Cytundeb Cyfnod Penodol)
Disgrifiad Swydd

Rydyn ni’n chwilio am hwylusydd drama angerddol ac ymroddedig i ddatblygu ac arwain mentrau cymunedol difyr ac o ansawdd uchel, gan gydweithio'n agos â'n darpariaeth Blynyddoedd Cynnar, a Chwmnïau Oedolion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan greadigol ac ymarferol wrth gyflwyno amrywiaeth o brosiectau, gweithdai a digwyddiadau. Bydd yn gweithredu fel eiriolwr dros ein gwaith gyda phobl ifanc a'r gymuned ehangach, gan gynnwys ein rhaglenni celfyddydau ac iechyd. Bydd y rôl yn cynnwys adeiladu a gwneud y mwyaf o gydweithrediadau, datblygu prosiectau, a chyfrannu at weledigaeth gyffredinol y sefydliad, sydd wedi'i gwreiddio mewn rhagoriaeth, dysgu creadigol, ac ymgysylltu cymunedol ystyrlon.
Sylwch: Mae'r rôl yma’n cynnwys gweithio boreau Sadwrn (8:30am–12:00pm) bob wythnos i arwain ein darpariaeth Blynyddoedd Cynnar.
Math o Gontract- Cytundeb Cyfnod Penodol - 31/12/2026
Oriau - 23 yr wythnos
Y Rôl
Pwrpas y Swydd
Datblygu ac arwain mentrau Cymunedau o ansawdd uchel a difyr. Cymryd rhan greadigol ac ymarferol wrth gyflwyno prosiectau, gweithdai a digwyddiadau. Bod yn eiriolwr dros y gwaith rydym yn ei wneud gyda phobl ifanc, y gymuned ehangach a'r celfyddydau ac iechyd, gan sicrhau cymaint â phosib o gydweithredu a phrosiectau a chyfrannu at y weledigaeth gyffredinol sy'n adeiladu ar ein henw da am ragoriaeth, dysgu creadigol ac ymgysylltu ystyrlon.
Y Person
Hanfodol:
- Profiad o gyflwyno gweithdai i amrywiaeth eang o oedrannau a chefndiroedd.
- Profiad sylweddol o weithio gyda'r gymuned.
- Sgiliau hwyluso, gyda’r gallu profedig i ddefnyddio dulliau gweithio methodolegol, creadigol ac sy'n cael eu harwain gan ganlyniadau.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.